Cymeradwyaeth Uchel – Gwobr Newid Bywyd a Chynnydd
Lucy Willis
“Mewn byd lle gall heriau yn aml foddi breuddwydion, mae taith Lucy Willis yn sefyll yn dyst i rym gwytnwch a phenderfyniad.”
Dyna ddywedodd Nikki Workman-Smith, Tiwtor Cwrs Dysgu fel Teulu Coleg Caerdydd a’r Fro, a enwebodd Lucy am Wobr Ysbrydoli!
“O wynebu problemau yn gynnar yn ei bywyd i ymddangos fel llusern o ysbrydoliaeth, mae stori Lucy yn un o ddyfalbarhad diwyro a thrawsnewidiad dwys,” ychwanegodd.
Ar ôl gadael addysg yn 15 oed a bod yn rhiant a hithau’n byw mewn hostel, cymerodd Lucy gyfres o swyddi rhanamser i gael dau ben llinyn ynghyd, ond roedd yn dioddef o orbryder ac iselder.
Daeth y trobwynt pan gyfarfu â Leanne Rutter, Swyddog Cyswllt Teuluoedd yn Ysgol Gynradd Bryn Hafod, Llanrhymni.
Cyflwynodd Leanne Lucy i Ddysgu fel Teulu ac fe wnaeth ei hyder a’i hysgogiad gynyddu’n fawr wrth iddi gwblhau cyfres o gyrsiau. Sicrhaodd swydd wirfoddol fel Cynorthwyydd Dysgu yn yr ysgol oedd wedi datblygu yn swydd fel Technegydd Cinio.
Gan anelu at fod yn Gynorthwyydd Dysgu, mae’n gobeithio dechrau cwrs Gofal Plant Lefel 3.
“Roeddwn wrth fy modd yn yr ysgol, ond ar ôl i mi ddod yn feichiog, bu’n rhaid i mi adael a daeth fy addysg i ben,” dywedodd Lucy, “Dros yr 20 mlynedd diwethaf fe wnaeth fy hyder yn fy ngallu fy hun – tu hwnt i fod yn fam – grebachu’n fawr iawn, felly mae cwblhau’r cyrsiau yma wedi bod yn drawsnewidiol.
“Rwy’n teimlo’n falch o’r hyn yr wyf wedi ei gyflawni. Mae wedi rhoi hwb i’m hunan-barch a’m gallu i ganolbwyntio – ac yn bwysicaf oll mae wedi rhoi ffrindiau newydd i mi. Am y tro cyntaf mewn blynyddoedd, rwy’n cymdeithasu ac yn mwynhau fy mywyd. Mae gennyf basbort; rwy’n helpu i redeg clwb llyfrau ac rwy’n rhan o’r Gymdeithas Rhieni Athrawon newydd yn yr ysgol. Mae’n teimlo fel petai fy mywyd wedi dechrau.”
Disgrifiodd Lucy’r rhaglen Dysgu fel Teulu fel “golau arweiniol” ac “achubiaeth”, gan gynnig llygedyn o obaith i’r rhai sydd ar goll ac yn ansicr o’u dyfodol.
“Gyda phob cwrs, rwy’n cael gwared ar haen o amheuaeth ac ansicrwydd, gan ddod i’r golwg yn gryfach a mwy sicr ohonof fy hun.
“I unrhyw un sy’n gaeth i rigol neu’n cael trafferth y dyddiau yma, rwy’n cynnig y geiriau yma o anogaeth: “Nid ydych ar eich pen eich hun. Gyda’r gefnogaeth iawn a phenderfyniad, gall hyd yn oed y nos dywyllaf glirio a chynnig gwawr ar ddiwrnod newydd. Ymddiriedwch yn y daith, derbyniwch y cyfleoedd sy’n dod ar eich traws a pheidiwch byth â thanbrisio gwytnwch yr ysbryd dynol”
Enwebwyd gan:
Coleg Caerdydd a’r Fro – Dysgu fel Teulu
Noddwr categori: