Enillydd Gwobr Oedolyn Ifanc
Partneriaeth Dysgu Ymddiriedolaeth Arloesi / UNISON Cymru
Arweiniodd awgrym gan aelod o staff yn mynychu cwrs at bartneriaeth newydd arloesol sy’n rhoi sgiliau cynhwysol i’w chydweithwyr sy’n cael ei darparu ar draws rhan anferth o Dde Cymru.
Sefydliad cefnogi’r anabl nid er elw yw’r Ymddiriedolaeth Arloesi sy’n rhoi gwasanaethau trwy Fro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf a Chaerdydd.
Roedd un o’r gweithwyr ar weminar a drefnwyd gan ei hundeb, Cronfa Ddysgu Undebau UNISON Cymru (WULF) ac yn dilyn hyn, gofynnodd a ellid darparu’r cwrs i fwy o’i chydweithwyr.
Mae prosiect WULF UNISON, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, wedi ymrwymo i ddarparu gweminarau a chyrsiau wyneb yn wyneb i weithwyr gofal cymdeithasol, mewn partneriaeth â chyflogwyr a thrwy ei rhaglen gweminar trwy Gymru gyfan.
Gweithiodd Jenny Griffin, o UNISON, yn glos gyda’r rheolwyr i negodi rhaglen o gyrsiau, sy’n cael eu cyflwyno yn amser gwaith gyda’r staff yn cael eu talu a’u rhyddhau i’w mynychu.
“Mae’r cytundeb yn dangos i’n haelodau bod y cyflogwr am weithio gyda’r undeb i roi blaenoriaeth i ddysgu ac mae’n dangos nad rhywbeth am un tro yn unig oedd y cyrsiau – mae dysgu yn mynd i ddigwydd trwy’r amser nawr,” dywedodd Jenny.
Cyflwynwyd cam cychwynnol y tri chwrs Lefel 1 Iaith Arwyddion Prydain gan Addysg Oedolion Cymru trwy gydol 2023, gyda chwrs Lefel 2 dilynol i alluogi staff i barhau i ddatblygu eu sgiliau newydd. Roedd y cyrsiau hyn wedi eu cyd-ariannu gan y prosiect WULF a’r cyflogwr, gyda 68 o ddysgwyr yn cymryd rhan.
Yr ail gam oedd cyflwyno cyrsiau Rheoli Amser a Rheoli Sgyrsiau Anodd a wnaed i’r diben, wedi eu hariannu trwy gynnig dysgu i aelodau’r undeb yn unig. Arweiniodd hyn at gynnydd yn aelodaeth yr undeb, gan roi diogeliad undeb i fwy o weithwyr a mynediad at gyrsiau coleg UNISON.
Mae’r Ymddiriedolaeth Arloesi yn awr wedi penodi dau gynrychiolydd dysgu undeb newydd i gefnogi cydweithwyr a sicrhau bod dysgu dan arweiniad yr undeb yn rhan o’i DNA.
Dywedodd Donna Miller, Rheolwr Hyfforddiant Ymddiriedolaeth Arloesi: “Mae’r adborth wedi bod yn gadarnhaol iawn gyda’n dysgwyr yn nodi bod eu sgiliau newydd wedi cael derbyniad twymgalon gan unigolion sy’n defnyddio ein gwasanaethau, gan gynyddu hyder a gwella cyfathrebu.”
Llofnodwyd Cytundeb Dysgu Swyddogol yr hydref diwethaf i atgyfnerthu pwysigrwydd dysgu yn y gweithle. Mae wedi datblygu’n batrwm o ran sut y gall UNISON a chyflogwyr gofal cymdeithasol weithio gyda’i gilydd i sicrhau bod cyrsiau ar gael i ddysgwyr nad ydynt yn ddysgwyr traddodiadol.
Canmolwyd y bartneriaeth arloesol gan Reolwr Rhanbarthol UNISON, Andy Rutherford, a ddywedodd: “Mae gweithwyr gofal cymdeithasol yn ganolog i’n hundeb ac mae’r cynllun hwn yn cynyddu eu sgiliau a’u hyder gan helpu’r bobl, teuluoedd a chymunedau y mae’r Ymddiriedolaeth Arloesi yn eu cefnogi’n uniongyrchol.”
Noddwr categori: