Enillydd Gwobr Dysgu ar gyfer Gwell Iechyd
Eve Salter
Cred Eve Salter, sy’n fenyw wydn, ei bod wedi paratoi at ddysgu yn well fel oedolyn nag yr oedd hi erioed yn ei harddegau ac mae’n awr yn datblygu gyrfa i gynnig gwell bywyd iddi hi a’i theulu.
Yn rhiant sengl yn ei harddegau, roedd yn teimlo ei bod yn cael ei gadael ar ôl wrth i’w ffrindiau fynd i’r coleg neu brifysgol, gan gael swyddi a chyfleoedd da yn y pen draw.
Trwy boeni am ei rhagolygon gyrfa yn y dyfodol ac oherwydd y cyfrifoldeb o fod yn rhiant mor ifanc dioddefodd Eve iselder difrifol. Gadawodd rhai penderfyniadau bywyd hi ag anhwylder straen ôldrawmatig a niweidiodd ei hyder a’i hunan-barch.
Ar ôl cyfnod hir yn gwella, dychwelodd at addysg yn ei 30au i ennill TGAU a magodd yr hyder i gychwyn cymhwyster Lefel 2 Gweinyddu Busnes gyda Choleg Caerdydd a’r Fro. Cwblhaodd y cymhwyster ddau fis yn gynnar ac mae wedi symud ymlaen i Lefel 3.
Mae Eve, 32, gweinyddydd busnes i Iechyd Cyhoeddus Cymru, wedi symud ymlaen i gyflog Band 4 yn y gwaith, ar ôl dau ddyrchafiad ac mae wedi bod â’i llygad ar gymhwyster mewn cynllunio digwyddiadau, sy’n rhan allweddol o’i gwaith.
“Os nad ydych chi’n ofalus fel mam ifanc gallwch golli eich hunaniaeth ond mae mynd yn ôl i ddysgu wedi fy helpu i newid popeth,” dywedodd. “Dim ond nawr bod fy merch yn hŷn y mae gennyf y cyfle i feddwl am fy ngyrfa. Rwyf am fod yn esiampl dda iddi hi ac ysbrydoli mamau ifanc eraill i wneud yr un peth.
“Mae mynd yn ôl i addysg yn oedolyn yn frawychus ac fe allwn fod wedi teimlo fy mod ar ôl pawb arall. Ond, gydag aeddfedrwydd a phrofiad bywyd ar fy ochr, mae wedi bod yn daith ddiddorol a chyffrous ar adeg yn fy mywyd pan wyf yn teimlo fy mod yn hollol barod ac wedi ymrwymo i ddysgu.
“Mae cefnogaeth ac absenoldebau astudio gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi fy ngalluogi i gwblhau’r gwaith heb boeni am ofal plant. Heb y gefnogaeth hon a chyfle i ddysgu yn y gwaith, ni fyddwn yn y sefyllfa yr wyf ynddi heddiw.”
Dywedodd ei henwebydd Michele Gate, gynt o Goleg Caerdydd a’r Fro: “Mae ymrwymiad diwyro Eve i dwf personol a’i hangerdd heintus am ddysgu wedi gadael marc annileadwy ar y rhai o’i chwmpas.
“Yr hyn sy’n gwneud Eve yn wahanol i’w ei hangerdd dros helpu eraill, fel rhan o’r cyfraniad ehangach y mae’n ei wneud yn ei swydd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru i gefnogi newid i wella bywydau eraill. Mae ei gwaith yn cefnogi meysydd allweddol yn yr adran gofal sylfaenol, gan gynnwys cefnogi cynhwysiad iechyd ac anghyfartaledd.”
Enwebwyd gan:
Coleg Caerdydd a´r Fro
Noddwr categori: