SUT I GYMRYD RHAN:

 

  • Chwilio am gyfleoedd dysgu ar-lein ac wyneb yn wyneb

    Os ydych chi’n cofrestru ar gyfer digwyddiad, beth am ddod â ffrind gyda chi? Rhowch hyder i’ch ffrindiau a’ch teulu i roi cynnig arni hefyd ac ysbrydolwch eraill i ddod i ddigwyddiad Wythnos Addysg Oedolion ym mis Medi.

  • Chwilio am gyngor a chymorth gyrfaoedd arbenigol

    Os ydych chi’n chwilio am gyngor ac arweiniad wedi’u teilwra ar feysydd fel cyflogaeth, ail-hyfforddi, gofal plant, straeon dysgu personol, Prentisiaethau, neu gymorth dileu swydd, ewch i’n tudalen Ble Nesaf i gael rhagor o wybodaeth.

  • Cysylltu â ni ar y cyfryngau cymdeithasol

    Rydyn ni ar Facebook, X ac Instagram. Defnyddiwch yr hashnodau #cariomlaeniddysgu #wythnosaddysgoedolion a’n tagio yn eich postiadau. Dywedwch wrthym ni beth rydych chi’n ei ddysgu, rhannwch eich stori ysbrydoledig, neu rhannwch sgil.

Beth ddywedodd rhai a gymerodd ran yn yr Wythnos Addysg Oedolion…

PARTNERIAID YMGYRCH

Caiff yr Wythnos Addysg Oedolion ei chydlynu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith, sefydliad polisi, ymchwil a datblygu annibynnol sy’n ymroddedig i ddysgu gydol oes, cyflogaeth lawn a chynhwysiant. Rydym wedi gweithio’n agos gydag ystod eang o bartneriaid a rhanddeiliaid am dros 25 mlynedd i gefnogi cyflwyno’r Wythnos Addysg Oedolion yng Nghymru. Diolch yn arbennig i noddwyr ymgyrch islaw.

Diddordeb mewn cefnogi’r Wythnos Addysg Oedolion?

A ydych yn ddarparydd ?

Ydych chi’n ddarparwr?

Ychwanegwch eich cyrsiau eich hun i’n gwefan.

CYMRU’N GWEITHO

Dysgu sgiliau newydd adechrau’r bennod nesaf

Beth bynnag yw dy sefyllfa, os wyt ti’n awyddus i ddysgu sgil newydd, byddwn ni’n dy helpu di l ystyried dy opsiynau gyda chyngor diduedd am ddim ar y rhaglenni hyfforddi a all dy helpu di i newid dy stori.
Cymru’n Gweithio #paidstopiodysgu

Mae Cymru’n Gweithio yn wasanaeth newydd sy’n galluogi unrhyw un dros 16 oed ledled Cymru i gael mynediad i gyngor ac arweiniad arbenigol i’ch helpu i oresgyn rhwystau a all fod yn eich wynebu i fynd i waith.

Felly p’un ai ydych angen help i chwilio am swyddi, ysgrifennu CV, paratoi ar gyfer cyfweliad, canfod lleoliad gwaith, dysgu sgiliau newydd, deall hawliau dileu swydd, cefnogaeth gofal plant, meithrin hunanhyder, neu hyd yn oed ble i droi iddo nesaf, dyma’r lle cywir i gael yr help rydych ei angen.

Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol