Cwrs Babi a Chi Egnïol
Blynyddoedd Cynnar Cymru

Mae gweithgaredd corfforol yn rhan hanfodol o ddatblygiad plentyn sy’n dechrau o’i eni. Mae’n hanfodol i dwf a datblygiad yn ogystal ag iechyd a lles.
Mae’r blynyddoedd cynnar yn amser mor bwysig wrth greu cariad at weithgaredd corfforol; a elwir hefyd yn llythrennedd corfforol ac mae astudiaethau wedi dangos bod plant sy’n cymryd rhan mewn lefelau uchel o weithgaredd corfforol o oedran ifanc, yn fwy tebygol o barhau i gymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol yn y blynyddoedd diweddarach. Felly, mae’n bwysig cyflwyno gweithgaredd ar yr oedran cynharaf er mwyn darparu’r cychwyn gorau i fabanod a phlant bach yn ein gofal. Fel rhieni / gofalwyr mae angen i ni fod yn annog gweithgaredd sy’n datblygu arferion da yn ddiweddarach yn ystod plentyndod sy’n ddigonol i fod o fudd i iechyd da tymor hir. Yn ystod y 1000 diwrnod 1af, bydd babi yn cael newidiadau cyflym yn gorfforol ac yn emosiynol a bydd y newidiadau hyn yn gosod y sylfaen ar gyfer ei iechyd a’i les yn y dyfodol. Ar y cam hwn yn natblygiad plentyn, y rhiant / gofalwr yn bennaf sy’n cael yr effaith fwyaf ar blentyn a rhwng 2-3 oed mae ymddygiad emosiynol y plentyn o’i gwmpas yn dylanwadu’n arbennig ar ymddygiad emosiynol plentyn. Nod y cwrs hwn yw rhoi cyfleoedd i chi ddatblygu dull aml-sgiliau o ymgorffori hyn ym mywyd beunyddiol. Mae diwallu anghenion corfforol babanod a phlant bach yn y blynyddoedd cynnar yn hanfodol os ydym am wneud newidiadau yn y genhedlaeth nesaf.
Ni fydd plant ar unrhyw bwynt arall yn dysgu cymaint o sgiliau corfforol ag y maent yn ei wneud yn ystod pum mlynedd gyntaf eu bywyd!
Nodau ac Amcanion
Ystyriwch bwysigrwydd llythrennedd corfforol yn ystod y 1000 diwrnod cyntaf
Myfyriwch ar y siwrnai dysgu llythrennedd corfforol i blant dan 3 oed
Paratowch i gefnogi datblygiad symud trwy chwarae a gweithgaredd corfforol
Cynlluniwch i gyflwyno ystod o weithgareddau corfforol i blant gan ddefnyddio’r pecyn adnoddau newydd ‘Active Baby and You’
Rhaid archebu’n uniongyrchol trwy e-bostio [email protected] gyda manylion y cwrs ac yna byddwn yn anfon dolen cyfarfod Zoom oddi yno.
- Dyddiad: 22 Medi 2020 
- Amser: 09:30 am - 12:30 pm