Adeiladu sefydliad cydweithredol yng Nghymru – Banc Cambria
Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales

Mae Cymru angen datblygu sefydliadau sy’n gweithio er lles ei holl ddinasyddion. Mae Mark Hooper yn arwain prosiect i sefydlu banc cymunedol yng Nghymru ac i Gymru, fydd dan berchnogaeth gydweithredol. Bydd trafodaeth am y gwahaniaeth y gallai Banc Cambria wneud o ran bancio lleol, ymgysylltu cymunedol a chefnogi busnesau bychain. Bydd y sesiwn yn cael ei chyflwyno gan Mick Antoniw MS/AS, aelod Llafur a Chydweithredol y Senedd dros Bontypridd.
Digwyddiad Cyfrwng- Saesneg (Croeso i chi gyfrannu yn y Gymraeg)
I ymuno: Cliciwch y linc a nodi eich manylion a’r digwyddiadau sydd o ddiddordeb (nawr). Bydd gwahoddiad digidol a chyfarwyddiadau pellach yn cael hanfon atoch. https://bit.ly/2QulHZG
- Dyddiad: 15 Medi 2020 
- Amser: 07:00 pm - 08:00 pm