Cwrs Meithrin Hyder – beth fydd yn digwydd? sut mae hyn yn gweithio?
Groundwork North Wales

Bydd y sesiwn awr o hyd hwn gyda’n hyfforddwyr profiadol yn cynnig cyfle i’r rhai sydd â diddordeb mewn cwblhau’r cwrs, a’r rheini sy’n gallu cyfeirio dysgwyr at y cwrs hwn, i ddeall sut mae’r cwrs yn cael ei gynnig drwy ddysgu o bell, a’r manteision i’r rheini sy’n cwblhau’r cwrs.
Byddwn yn darparu deunyddiau sampl, gwybodaeth am gynnwys y cwrs ac yn trafod y camau nesaf a’r cyfleoedd i’r rhai sy’n cymryd rhan i symud ymlaen yn y dyfodol.
- Dyddiad: 24 Medi 2020 
- Amser: 10:00 am - 11:00 am