Ffotograffiaeth Ddigidol
Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales

Trosolwg
A hoffech chi ddod yn gyfarwydd â’ch camera digidol? A ydych chi’n dymuno tynnu lluniau gwych? Dysgwch rywfaint o gynghorion sylfaenol ynghylch defnyddio eich camera digidol gan ein tiwtor profiadol. Mae’r cwrs blasu hwn yn rhan o Wythnos Dysgu Oedolion trwy gydweithrediad â’r Sefydliad Dysgu a Gwaith. Mae’n sesiwn unwaith ac am byth sy’n para 2.5 awr, i ddechreuwyr. Yn ystod y sesiwn, byddwn yn darparu manylion ein cyrsiau eraill i’ch galluogi i ddysgu rhagor.
Cynnwys
Bydd y cwrs blasu unwaith ac am byth hwn ar gyfer dysgwyr yn trafod y canlynol:
• Defnyddio rheolyddion sylfaenol eich camera.
• Dysgu i beth y defnyddir moddau wedi’u gosod ymlaen llaw ar gamera.
• Deall cyfansoddiad lluniau a dysgu beth yw hanfod llun da.
Ymgeisio nawr
https://www.adultlearning.wales/cym/cwrs/39598
- Dyddiad: 22 Medi 2020 
- Amser: 12:30 pm - 03:00 pm