Cyrsiau Sgiliau Bywyd – sesiwn blasu
Groundwork North Wales

Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu tuag at bobl ifanc a phobl sy’n gweithio gyda nhw neu sy’n rhoi cymorth iddynt. Nod y cwrs yw meithrin hyder a hunanbarch, datblygu sgiliau newydd, cyfarfod pobl newydd ac yn y pen draw mynd allan a chael hwyl mewn amgylchedd ymlaciol.
Bydd y sesiwn awr o hyd hwn gyda’n Cydlynydd Hyfforddiant Ieuenctid Hŷn yn rhoi cyfle i flasu gweithgareddau rydym yn eu darparu yn ystod y cyrsiau hyn sy’n cael eu darparu drwy lwyfannau digidol, darparu gwybodaeth am y ffordd maen nhw’n gweithio a dysgu am lwyddiant pobl ifanc sydd wedi cymryd rhan yn y rhaglen hon yn y gorffennol.
- Dyddiad: 24 Medi 2020 
- Amser: 03:00 pm - 04:00 pm