Gwneud i arian weithio
Good Things Foundation

Bydd y cwrs hwn yn eich dysgu am reoli arian sylfaenol ar-lein a sut i wneud y mwyaf o’ch arian. Byddwch yn dysgu sut i gymryd sawl cam syml ar hyn o bryd i wneud cyllideb a rheoli’ch benthyciadau fel y gallwch chi gynllunio ar gyfer y dyfodol.
Gall rheoli eich cyllid ymddangos yn dasg enfawr ond nid oes angen iddo fod yn gymhleth. Mae delio â’ch arian ar-lein yn golygu y gallwch reoli’ch cyllideb, gwneud cynlluniau a rheoli sut rydych chi’n benthyca arian. Mae hyn yn arbed amser i chi ac yn rhoi tawelwch meddwl i chi eich bod chi’n gwneud i arian weithio i chi.
Adnodd ar-lein yw hwn