Bancio ar-lein a symudol
Good Things Foundation

Yn y cwrs hwn byddwch yn dysgu sut i wneud bancio ar y rhyngrwyd, gan ddefnyddio naill ai cyfrifiadur, llechen neu ffôn symudol. Bydd y cwrs yn dangos i chi sut i gadw golwg ar eich arian, gwneud taliadau ac aros yn ddiogel gyda bancio ar-lein.
Nid yw cymryd amser i ymweld â’ch banc bob amser yn hawdd, a phan wnewch hynny gall olygu weithiau aros yn hir i siarad â’r person iawn. Gall bancio ar-lein, a elwir hefyd yn fancio rhyngrwyd, fod yn llawer mwy cyfleus. Efallai ei bod yn ymddangos yn frawychus delio â’ch arian ar-lein ar y dechrau, ond mae miliynau o bobl yn defnyddio bancio ar-lein bob dydd mewn ffordd ddiogel.
Adnodd ar-lein yw hwn