Ein Cyrsiau Llwybrau … – beth mae’n ei olygu? Pa gymwysterau fydda i’n eu hennill? Sut mae’n gweithio ar-lein?
Groundwork North Wales

Mae Groundwork Gogledd Cymru wedi datblygu cyfres o gyrsiau sy’n cynorthwyo dysgwyr i ennill cymwysterau a fydd yn eu gwneud yn gymwys i weithio mewn sectorau penodol. Gallwn addasu’r cyrsiau hyn ar gyfer y grŵp o ddysgwyr. Ar hyn o bryd, rydym yn darparu’r cyrsiau Llwybrau canlynol drwy ddulliau dysgu o bell:
• Llwybr i Iechyd a Gofal Cymdeithasol
• Llwybr i Ofal plant
• Llwybr i weithio yn y sector Adwerthu
• Llwybr i weithio yn y sector Glanhau
• Llwybr i weithio yn y sector Lletygarwch
• Llwybr i Arlwyo
Bydd y sesiwn awr o hyd hwn gyda’n hyfforddwyr profiadol yn rhoi cyfle i’r rhai sydd â diddordeb mewn cwblhau’r cwrs, a’r rheini sy’n gallu cyfeirio dysgwyr at y cwrs hwn, i ddeall sut mae’r cwrs yn cael ei gyflwyno drwy ddulliau dysgu o bell.
- Dyddiad: 24 Medi 2020 
- Amser: 01:00 pm - 02:00 pm