Rhianta a Chynorthwyo Eich Plentyn i Ffynnu mewn Oes Ddigidol – Rhaglen dysgu cyfunol am ddim gan WISE KIDS
WISE KIDS

Annwyl Rieni a Gofalwyr Maeth,
Estynnir gwahoddiad i chi gymryd rhan yn: ‘Rhianta a Chynorthwyo Eich Plentyn i Ffynnu mewn Oes Ddigidol’ – rhaglen gyfunol ar-lein am ddim (sy’n cynnwys 2 weminar sy’n para hanner awr yr un, cynnwys ar-lein a gweithgareddau i’w cwblhau) a gyflwynir gan Dr Sangeet Bhullar o WISE KIDS, fel rhan o’r Wythnos Addysg Oedolion.
Nod y rhaglen hon yw cynorthwyo rhieni/gofalwyr maeth:
• I ddysgu mwy am y Rhyngrwyd a sut y mae technolegau digidol ar-lein yn esblygu ac yn newid bywydau teuluol, byd busnes ac addysg, a’r cyfleoedd a ddaw o ganlyniad i’r rhain.
• Deall y sialensiau y gall technolegau ar-lein eu creu, a chael trosolwg o’r ffordd o reoli’r rhain mewn ffordd effeithiol ar gyfer eu plant a’u hunain; dysgu ble i adrodd pryderon/ am gamdriniaeth, a chael help ychwanegol.
• Dysgu am y gwefannau a’r adnoddau cadarnhaol y gallant eu defnyddio ar-lein i gynorthwyo eu plentyn yn eu dysgu a’u datblygiad.
• Dysgu sut y gallant rianta gyda thechnoleg ddigidol mewn ffordd fwy effeithiol.
• Sylweddoli sut y gallan nhw eu hunain ddefnyddio’r Rhyngrwyd er mwyn dysgu a datblygu.
Strwythur y Rhaglen
• Bydd y rhaglen yn cynnwys 2 weminar ‘fyw’ 30 munud a gyflwynir trwy Zoom, ar ddechrau ac ar ddiwedd y rhaglen, ar y 25ain o Fedi (8.00pm – 8.30pm) a’r 2il o Hydref (6.00pm a 6.30pm)
• Yn syth ar ôl mynychu’r weminar gyntaf, rhoddir mynediad i gyfranogwyr i raglen ar-lein i’w dilyn ar eu cyflymder eu hunain, ynghyd â chynnwys sain a fideo a gweithgareddau i’w cwblhau ar eu cyflymder eu hunain. Bydd y rhaglen yn gorffen ar ôl yr 2il weminar.
At ei gilydd, ni fydd y rhaglen yn cymryd mwy na 3 awr i’w chwblhau.
Bydd pob cyfranogydd sy’n cwblhau’r rhaglen yn cael ‘Tystysgrif Ymwybyddiaeth Rhianta mewn Byd Digidol’ WISE KIDS.
Noddir y rhaglen hon gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith yng Nghymru, fel rhan o’r Wythnos Addysg Oedolion.
I gofrestru, trowch at:
https://www.eventbrite.co.uk/e/parenting-and-supporting-your-child-to-thrive-in-a-digital-age-registration-120527734699
Adnodd ar-lein yw hwn