Llwybr i Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Blynyddoedd Cynnar – beth mae’n ei olygu? Pa gymwysterau fydda i’n eu hennill? Sut mae’n gweithio ar-lein?
Groundwork North Wales

Bydd y sesiwn awr o hyd hwn gyda’n hyfforddwyr profiadol yn rhoi cyfle i’r rhai sydd â diddordeb mewn dilyn y cwrs hwn, a’r rheini sy’n gallu cyfeirio dysgwyr at y cwrs, i ddeall sut mae’r cwrs yn cael ei ddarparu drwy ddulliau dysgu o bell.
Bydd y sesiwn yn cynnig mwy o fanylion am yr opsiynau gall dysgwyr eu dewis yn y cwrs, a sut mae’r cyrsiau’n cael eu darparu, gan gynnwys sampl o ddeunyddiau’r cwrs a gwybodaeth am asesiadau.
- Dyddiad: 25 Medi 2020 
- Amser: 02:30 pm - 03:30 pm