Y Bardd yn Bamffletîr? Barddoni rhwng Dau Bla
Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales

Os oedd R Williams Parry yn poeni yn nhridegau’r ganrif ddiwethaf y gallai beirdd ei gyfnod droi’n ormod o bregethwyr gwleidyddol, byddai ganddo ddigonedd o reswm i boeni heddiw! Yn y sesiwn hon, byddaf yn ystyried sut mae fy ngwaith innau a beirdd eraill wedi ymdopi â dau Bla erchyll ein hoes – Brexit a’r pandemig Coronafeirws, ac yn gofyn ai ffynnu ynteu straffaglu mae barddoniaeth Gymraeg o dan y fath amgylchiadau.
Digwyddiad Cyfrwng-Cymraeg
I ymuno: Cliciwch y linc a nodi eich manylion a’r digwyddiadau sydd o ddiddordeb (nawr). Bydd gwahoddiad digidol a chyfarwyddiadau pellach yn cael hanfon atoch. https://bit.ly/2QulHZG
- Dyddiad: 21 Medi 2020 
- Amser: 07:00 pm - 08:00 pm