Defnyddio ffurflenni ar-lein
Good Things Foundation

Yn y cwrs hwn byddwch yn dysgu beth yw ffurflen ar-lein, sut i lenwi ffurflenni ar wefan a sut i gywiro camgymeriadau arnynt. Bydd y cwrs hefyd yn dangos i chi’r gwahanol ffyrdd o lenwi ffurflenni ar-lein, fel blychau testun ac atebion amlddewis.
Mae angen i chi allu llenwi ffurflenni ar-lein i wneud pethau fel ceisio am fudd-daliadau, talu biliau neu siopa ar-lein. Gall hyn eich helpu i arbed amser ac arian. Mae ffurflenni ar-lein hefyd yn ddefnyddiol ar gyfer cysylltu’n gyflym â’r gwasanaethau rydych chi’n eu defnyddio. Ar y dechrau, gallai hyn ymddangos yn anodd, ond unwaith y byddwch chi’n dysgu sut mae ffurflenni ar-lein yn gweithio bydd yn gwneud eich bywyd yn symlach.
Adnodd ar-lein yw hwn