Defnyddio peiriannau chwilio
Good Things Foundation

Yn y cwrs hwn byddwch yn dysgu sut i chwilio am bethau ar y rhyngrwyd gan ddefnyddio peiriannau chwilio fel Google. Mae’r cwrs yn ymdrin â sut i chwilio am wefannau, defnyddio nodau tudalen ac arbed delweddau a ffeiliau eraill.
Bydd gallu defnyddio chwiliadau ar-lein yn eich helpu i ddod o hyd i wybodaeth yn gyflym gan ddefnyddio’r rhyngrwyd. Gall peiriannau chwilio fel Google, Bing ac Yahoo eich helpu i ddod o hyd i wefannau, ffeithiau a gwybodaeth arall yn gyflym. Peidiwch â phoeni os nad yw’ch sillafu’n wych – gall peiriannau chwilio eich helpu i sillafu geiriau a rhoi awgrymiadau i chi os nad ydych chi’n siŵr.
Adnodd ar-lein yw hwn