Cwrs blasu dysgu Cymraeg – am ddim
Dysgu Cymraeg Morgannwg

Os dych chi’n ystyried dysgu Cymraeg, dyma gyfle i chi gymryd rhan mewn gwers cyn penderfynu os dych chi am ymuno â chwrs. Mae dosbarthiadau Cymraeg yn draddodiadol gyfeillgar ac anffurfiol, ac yn canolbwyntio’n bennaf ar Gymraeg llafar. I gofrestru, cliciwch ar y linc a dilynwch y cyfarwyddiadau. Mae’r sesiwn am ddim ac yn cael ei chynnal ar-lein dros Microsoft Teams.
- Dyddiad: 24 Medi 2020 
- Amser: 09:30 am - 11:30 am