CHWILIO AM GWRS NEU DDIGWYDDIAD

Mae cannoedd o gyrsiau, digwyddiadau ac adnoddau dysgu am ddim ar y platfform, dewch o hyd i’r un iawn i chi trwy ddefnyddio’r blwch chwilio isod. Mae yna lawer o feysydd pwnc cyffrous i ddewis ohonynt.

Taniwch eich brwdfrydedd a pheidiwch byth â rhoi’r gorau i ddysgu.

Ydych chi’n ddarparwr?

Ychwanegwch eich cyrsiau eich hun i’n gwefan.

CYMRU'N GWEITHIO

Dysgu sgiliau newydd adechrau’r bennod nesaf

Beth bynnag yw dy sefyllfa, os wyt ti’n awyddus i ddysgu sgil newydd, byddwn ni’n dy helpu di l ystyried dy opsiynau gyda chyngor diduedd am ddim ar y rhaglenni hyfforddi a all dy helpu di i newid dy stori.
Cymru’n Gweithio#newiddystori

Mae Cymru’n Gweithio yn wasanaeth newydd sy’n galluogi unrhyw un dros 16 oed ledled Cymru i gael mynediad i gyngor ac arweiniad arbenigol i’ch helpu i oresgyn rhwystau a all fod yn eich wynebu i fynd i waith.

Felly p’un ai ydych angen help i chwilio am swyddi, ysgrifennu CV, paratoi ar gyfer cyfweliad, canfod lleoliad gwaith, dysgu sgiliau newydd, deall hawliau dileu swydd, cefnogaeth gofal plant, meithrin hunanhyder, neu hyd yn oed ble i droi iddo nesaf, dyma’r lle cywir i gael yr help rydych ei angen.

Rhannu sgiliau tu hwnt i Gymru

Edrychwch ar y digwyddiadau ar-lein sy’n digwydd tu hwnt i Gymru. Fe welwch amrywiaeth eang o gyrsiau ar-lein gydag achrediad, sesiynau blasu a sesiynau tiwtorial sydd ar gael i bawb ble bynnag yr ydych.

Canfod mwy o ddigwyddiadau ar-lein