Polisi Preifatrwydd

Mae Sefydliad Cenedlaethol Dysgu a Gwaith yn ymroddedig i warchod a pharchu eich preifatrwydd ac esbonio pa wybodaeth bersonol yr ydym yn ei chasglu, pam ein bod yn ei chasglu a sut y’i defnyddiwn.

Yn y Polisi Preifatrwydd hwn pan gyfeiriwn at “ni, “ein” a “D&G” rydym yn cyfeirio at y Sefydliad Cenedlaethol Dysgu a Gwaith.

Byddwn yn cadw’r wybodaeth a roddwch i ni (heblaw manylion cardiau credyd a debyd) ar ein system cwmwl-seiliedig ddiogel a/neu ein cronfa ddata fewnol, neu ar gyfer data mwy sensitif, ein serfiwr diogel.

Rydym yn cymryd ein cyfrifoldeb gyda’ch data personol yn ddifrifol iawn ac yn anelu bod yn dryloyw am sut ydym yn trin, defnyddio a rhannu (os yn berthnasol) eich gwybodaeth.

Os nad ydych wedi cytuno fel arall, dim ond i brosesu eich ymholiad/archeb/cais ar gyfer dibenion mewnol y defnyddir yr wybodaeth a roddwch i D&G fel y’i disgrifir yn y Polisi Preifatrwydd hwn. Ni chaiff ei gwerthu i unrhyw drydydd parti. Fodd bynnag, os ydych wedi cofrestru ar gyfer digwyddiad, cyhoeddiad(au), gweithdy neu ein bod yn gweithio gyda chi fel partneriaid a rhanddeiliaid, darparwyr dysgu, Aelodau Seneddol neu swyddogion Seneddol sy’n hanfodol i’n gwaith a/neu berthynas sy’n bodoli eisoes, byddwn yn dal eich manylion ar ein system dan ddiddordeb dilys nes gofynnwch i ni dynnu/newid eich manylion.

Os ydych wedi rhoi eich caniatâd a/neu fod eich manylion personol ar ein system yn ddilys, gellir cysylltu gyda chi gyda manylion gwaith yn y dyfodol a hyrwyddir gan D&G. Bydd pob neges e-bost a gewch gennym yn cynnwys opsiwn i ddatdanysgrifio neu ddiweddaru eich dewisiadau cyfathrebu.

Bydd Sefydliad Cenedlaethol Dysgu a Gwaith yn cydymffurfio gyda chyfraith diogelu data a’i hegwyddorion yng nghyswllt eich data personol sy’n golygu y caiff eich data personol ei:

  • Gasglu a’i drin yn gyfreithiol, teg a thryloyw,
  • Dim ond os yw’n berthnasol i’r diben a gytunwyd y caiff ei gasglu a’i gadw,
  • Ei gadw’n gywir ac yn gyfredol,
  • Ei gadw cyhyd ag sydd angen ar gyfer y diben a gytunwyd
  • Ei warchod yn ddiogel.

Rydym yn casglu data personol a sensitif amdanoch am amrywiaeth o resymau, megis

  • Ymchwil,
  • Cofrestru digwyddiad,
  • Recriwtio,
  • Cyfleoedd cyllid,
  • Gweithgaredd prosiect ac ymgyrchu, marchnata a chyfathrebu

Mae rhai achosion lle mae D&G yn rheoli a hefyd prosesi eich data. Byddwn yn defnyddio:

  • cytundebau rhannu data,
  • ffurflenni caniatâd,
  • hysbysiadau preifatrwydd penodol seiliedig ar brosiect ymchwil,
  • polisïau preifatrwydd ar gyfer gwasanaethau mewnol adnoddua dynol lle’n berthnasol.

 

FFOTOGRAFFAU A FFILMIAU

Drwy lenwi ffurflen gofrestru, rydych yn ddilys yn rhoi caniatâd i D&G fedru defnyddio ffotograffiaeth a ffilm i gefnogi a hyrwyddo ein gwaith yn cynnwys ymchwil, polisi, digwyddiadau ac ymgyrchoedd. Bwriadwn gadw a defnyddio’r ffilm a’r ffotograffau a gasglwn am hyd at 8 mlynedd, neu am gyfnod hirach os oes prosiect penodol neu ofyniad archwilio cyllidwyr.

Caiff ffilmiau eu hychwanegu at sianel YouTube D&G a gellir ychwanegu dolenni i’n gwefannau. Gall ffilmiau a ffotograffau gael eu dosbarthu drwy’r cyfryngau cymdeithasol (e.e. Twitter, Facebook ac Instagram), gyda’r wasg a’r cyfryngau a gyda sefydliadau partner dethol. Gallwn hefyd eu defnyddio mewn digwyddiadau a gweithgareddau hyrwyddo a sesiynau hyfforddi.

 

Dileu Caniatâd

Os nad ydych yn mwyach yn cytuno i ffotograffau a ffilmiau yr ymddangoswch ynddynt i gael eu defnyddio yn y ffordd hon, cysylltwch â ni i ofyn am dynnu’r eitemau hyn o’n gwefan a chyfryngau cymdeithasol. Byddwn yn anelu i gwblhau eich cais o fewn 30 diwrnod o dderbyn eich hysbysiad. Gofynnir i chi nodi, er y gallwn dynnu eich cynnwys o’r ffynhonnell, nad ydym yn gyfrifol am unrhyw ddefnydd gan drydydd parti.

Cwcis

Gallwn gasglu gwybodaeth sensitif i hyrwyddo amrywiaeth a monitro cyfle cyfartal o fewn D&G, fodd bynnag nid yw’n rheidrwydd arnoch i lenwi’r ffurflen hon ac ni fydd yn effeithio ar eich cais pe byddech yn dewis peidio rhoi’r wybodaeth.

Byddwn yn cadw gwybodaeth a roddir i ni gan drydydd parti cyhyd ag y cytunir gennych chi.

Dim ond mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn (yr ydych wedi cytuno iddynt) neu lle mae’r gyfraith yn caniatau i ni wneud hynny y byddwn yn datgelu gwybodaeth bersonol/sensitif yr ydych wedi ei rhoi i ni fel trydydd parti.

Caiff unrhyw wybodaeth sensitif yr ydym wedi’i chasglu un ai gennych chi eich hun neu drydydd parti (yr ydych wedi cytuno iddo) ei throsglwyddo a’i chadw’n ddiogel ar ein systemau mewnol diogel.

Eich hawliau dan y GDPR

  • Yr hawl i gael eich hysbysu
  • Yr hawl i gael mynediad
  • Yr hawl i dynnu caniatâd
  • Yr hawl i unioni
  • Yr hawl i ddileu
  • Yr hawl i gyfyngu prosesu
  • Yr hawl i gludadwyedd data
  • Yr hawl i wrthwynebu
  • Yr hawl i beidio bod yn destun gwneud penderfyniadau awtomatig yn cynnwys proffilio

 

Mae gennych hefyd hawl i gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth i gyflwyno cwyn https://ico.org.uk/make-a-complaint/

Mae ein Rheolwr Gweinyddiaeth yn goruchwylio ein polisïau diogelu data, protocolau a Pholisi Preifatrwydd. Ar gyfer cwestiynau am y Polisi Preifatrwydd hwn neu sut ydym yn trin a defnyddio eich data personol, cysylltwch â Jade Marquis jade.marquis@learningandwork.org.uk.

Gallwn ddiwygio’r polisi preifatrwydd hwn o bryd i’w gilydd i’w gadw’n gyfoes gyda gofynion cyfreithiol a’r ffordd y gweithredwn ein busnes. Diwygiwyd y polisi preifatrwydd hwn ym mis Gorffennaf 2018.