BLE NESAF?

CYMRU’N GWEITHIO
Mae Cymru’n Gweithio yn wasanaeth newydd sy’n galluogi unrhyw un dros 16 oed ledled Cymru i gael mynediad i gyngor ac arweiniad arbenigol i helpu pobl i oresgyn rhwystrau a all fod yn eu hwynebu i fynd i waith. Ewch i Cymru’n Gweithio i gael rhagor o wybodaeth.
ARIAN MYFYRWYR
Bydd holl israddedigion cymwys Cymru sy’n dechrau cwrs prifysgol o fis Medi 2018 ymlaen yn cael cymorth gyda chostau byw drwy gyfuniad o grantiau a benthyciadau. Bydd y rhan fwyaf yn derbyn cymorth sy’n cyfateb i’r Cyflog Byw Cenedlaethol. I fyfyrwyr sy’n dod o aelwydydd lle mae’r incwm yn gymharol isel, bydd y rhan fwyaf o’r cymorth ar gyfer costau byw ar ffurf grant nad oes rhaid ei dalu’n ôl.
O fis Awst 2019, gallai myfyrwyr cyrsiau meistr ôlraddedig cymwys gael pecyn cymorth tebyg i israddedigion.

CYLLID MYFYRWYR CYMRU
Cyllid myfyrwyr rhan-amser ar gael yn 2019/20
Edrychwch ar Cyllid Myfyrwyr Cymru os ydych yn edrych am wybodaeth ar sut i gael cyllid ar gyfer graddau rhan-amser.
Bydd dau brif gost tra byddwch mewn prifysgol neu goleg – ffioedd hyfforddiant a chostau byw. I helpu gyda’r costau hyn, y prif fathau o gyllid yw Benthyciadau Ffioedd Hyfforddiant a Benthyciadau Cynhaliaeth (sydd angen eu had-dalu) a grantiau a bwrsariaethau (nad yw’n rhaid eu had-dalu). Ni fydd yn rhaid i’r rhan fwyaf o fyfyrwyr dalu unrhyw beth ymlaen llaw am eu cwrs.
Yr hyn a gewch
Mae grantiau a benthyciadau ar gael i’ch helpu drwy eich cwrs.
- Benthyciad Ffioedd Hyfforddiant
- Help gyda chostau byw
- Cymorth ychwanegol – help os oes gennych blant neu oedolyn sy’n ariannol ddibynnol arnoch .
- Lwfansau Myfyrwyr Anabl
- Bwrsariaethau ac ysgoloriaethau
Benthyciadau Ffioedd Hyfforddiant
Myfyrwyr rhan-amser
Mae’n rhaid i fyfyrwyr rhan-amser fod yn astudio ar ddwysedd cwrs o 25% neu fwy i fod yn gymwys am Fenthyciad Ffioedd Hyfforddiant.
Gellir cymryd Benthyciad Ffioedd Hyfforddiant ar gyfer y ffioedd a chaiff hyn ei dalu’n uniongyrchol i’ch prifysgol neu goleg. Os yw’r ffi hyfforddiant a gaiff ei godi gan eich prifysgol neu goleg yn fwy na’r Benthyciad Ffi Hyfforddiant sydd ar gael, yna bydd yn rhaid i chi ariannu’r gwahaniaeth eich hunan (gall hyn fod yn wir ar gyfer prifysgol neu goleg a gyllidir yn breifat).
I gael yr wybodaeth ddiweddaraf ar sut a phryd i wneud cais am 2019/20 edrychwch ar ein hadran Newyddion Diweddaraf.

GYRFA CYMRU
Mae ffocws gwasanaethau dwyieithog Gyrfa Cymru ar y rhai sydd fwyaf o angen cymorth wrth gynllunio gyrfa.
Mae Gyrfa Cymru yn gweithio mewn partneriaeth gyda phartneriaid eraill i gyflwyno ystod o wasanaethau cysylltiedig, yn cynnwys:
- Cefnogi ysgolion i ymgysylltu gyda chyflogwyr i wella dealltwriaeth myfyrwyr o fyd gwaith
- Darparu cymorth ar gyfer ysgolion gyda’u cwricwlwm Gyrfaoedd a Byd Gwaith, yn cynnwys gweithio at Nod Gyrfa Cymru
Mae Gyrfa Cymru hefyd yn cefnogi prosiectau penodol Llywodraeth Cymru yn cynnwys:
- Twf Swyddi Cymru
- Gwasanaeth Paru Prentisiaeth
- Cymorth Porth Sgiliau Unigol ar gyfer oedolion di-waith
- ReACT – rhaglen cefnogaeth ar gyfer oedolion y caiff eu swyddi eu dileu