Academi Arian MSE
Y Brifysgol Agored yng Nghymru
Mae’r Brifysgol Agored wedi ymuno â MoneySavingExpert (MSE) i gynhyrchu’r cwrs rhad ac am ddim newydd hwn i roi’r sgiliau a’r wybodaeth i chi feistroli eich arian. Ysgrifennwyd y cwrs gan y Brifysgol Atodol, gyda chyngor ac arweiniad MSE. Cynhyrchwyd y cwrs hwn yn Saesneg yn wreiddiol ac mae wedi ei gyfieithu i’r Gymraeg gan y Brifysgol Agored.
Gyda fideos, sain, cwisiau a gweithgareddau, mae’r cwrs yn cwmpasu holl agweddau allweddol cyllid personol mewn chwe sesiwn astudio, ac mae pob un yn cymryd tua dwy awr i’w cwblhau.
Mae’r cwrs yn dechrau drwy edrych ar sut i fod â synnwyr cyffredin wrth wario arian ac ar y pwysau ymddygiadol a marchnata sy’n ceisio dylanwadu ar yr hyn y mae defnyddwyr yn ei brynu.
Yna, mae’n edrych ar gyllidebu ac effaith treth ar gyllid cartrefi.
Mae benthyca arian yn rhywbeth y mae bron pob aelwyd yn gyfarwydd ag ef ond gall achosi problemau ariannol. Mae’r cwrs yn esbonio sut i fenthyg arian yn synhwyrol os oes angen, boed yn fenthyciad i brynu car neu forgais i brynu eich cartref.
Ydych chi eisiau cynilo neu fuddsoddi arian? Mae’r cwrs yn edrych ar gyfrifon cynilo syml ond hefyd buddsoddiadau fel cyfranddaliadau, nwyddau neu eiddo. Mae’n esbonio’r hyn sy’n gysylltiedig â’r risgiau rydych chi’n eu hamlygu wrth i chi chwilio am elw uwch ar eich arian.
Mae’r cwrs yn gorffen drwy fynd i’r afael â chymhlethdodau pensiynau. Bydd yn eich helpu i feddwl am eich opsiynau wrth ymddeol, fel beth fydd cyfanswm eich pensiwn y wladwriaeth, ategu hyn â phensiwn galwedigaethol neu bersonol, a’r hyn y gallwch ei wneud os nad yw eich darpariaeth bensiwn yn ddigonol ar gyfer yr hyn sydd ei angen arnoch.
Mae fersiwn iaith Gymraeg y cwrs ar gael yn fan hyn: https://bit.ly/2VFFgEi
Manylion
Adnodd ar-lein yw hwn
- Rhanbarth: Cymru Gyfan
- Arddull Dysgu: Ar-lein
- Ffôn: 029 2047 1170