Adolygiad Canol Gyrfa (i’r rhai 50+ oed)
UNSAIN Cymru Wales

Wedi’i gyflwyno mewn partneriaeth â’r Rhaglen Oedran yn y Gwaith (@BITCCymru) ac ar gael i’r rhai 50+ oed
Wedi’i gyflwyno trwy’r platfform GoTo Webinar. Er mwyn derbyn y cyfarwyddiadau ymuno GoTo, gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau cofrestru ar yr e-bost cadarnhau Eventbrite.
Mae’r weminar yn para 45 munud – 1 awr a bydd yn ymdrin â’r canlynol:
• Beth yw adolygiad canol gyrfa (yn gyfannol) a’r manteision y mae mynychwyr wedi’u canfod
• Model Cynllunio Gyrfa (hunanymwybyddiaeth, opsiynau, gwneud penderfyniadau, y camau nesaf)
• Techneg STAR ar gyfer cyfweliadau a sgyrsiau 1:1 gyda’r rheolwr llinell
• Straeon bywyd go iawn – straeon am bobl 50+ oed sydd wedi newid eu gyrfaoedd, mynd i hunangyflogaeth ac ati
• Beth i’w wneud os ydych yn ystyried newid gyrfa
• Pam newid gyrfa
• Sgiliau gorau ar gyfer 2025
• Dilyniant gyrfa
• Manteision dysgu a datblygu
• Annog cynllunio gweithredu
Sylwch mai sesiwn ragarweiniol yw hon – nid yw’r tiwtor yn Gynghorydd Gyrfa. Fodd bynnag, nod y gweminar hwn yw cael pobl i feddwl am eu dyfodol, yr hyn y maent ei eisiau a pha gamau y gallant eu cymryd i gyrraedd yno.
Mae maes dyddiadau hyfforddi pellach ar gael yn www.bitcni.org.uk/age-at-work-wales-mid-career-review
Yn dilyn y sesiwn, bydd mynychwyr yn derbyn pecyn adnoddau gyda chyfeiriadau at ble y gall pobl gael cymorth pellach, yn ogystal ag ychydig o weithgareddau a thempledi y gallant eu defnyddio yn eu hamser eu hunain.
Bydd y wybodaeth a roddwch yn cael ei storio’n ddiogel a’i dinistrio ar ôl blwyddyn. I gael rhagor o wybodaeth am sut mae UNSAIN yn defnyddio eich data personol, ewch i: www.unison.org.uk/privacy-policy.
Manylion
- Dyddiad: 22nd Medi 2022 
- Amser: 12:00pm - 1:00pm
- Rhanbarth: Cymru Gyfan
- Ffôn: 02920729414