Blas ar Gyfnewid Iaith: Cwis Tafarn a Chyfleoedd Teithio
Academi Saesneg Geltaidd
Dyddiad: Dydd Iau 20 Hydref
Amser: 2:00pm neu 6:30pm
Hyd: 90 munud (cwis 1 awr, yna sesiwn holi ac ateb)
Yn y sesiwn 90 munud ar-lein hon, byddwch yn dysgu rhywfaint o iaith a diwylliant o Ffrainc, Sbaen, yr Almaen, yr Eidal, Japan a’r Ariannin.
Byddwch yn cymryd rhan mewn gweithgaredd arddull ‘cwis tafarn’. Bydd gennym fewnbwn gan rai siaradwyr brodorol, gan eich helpu i ddysgu a theimlo sut brofiad yw bod mewn ystafell ddosbarth ieithoedd modern.
Y gobaith yw eich ysbrydoli i ddechrau dysgu iaith neu fynd ar daith cyfnewid iaith!
Ar ddiwedd y sesiwn, byddwn yn cyflwyno rhai cyfleoedd cyffrous i ymuno â thaith cyfnewid iaith yn 2023, lle gall oedolion ddysgu iaith a chael eu trochi yn y diwylliant lleol – naill ai gyda chyllid neu drwy dalu ffi.
Manylion
- Dyddiad: 20th Hydref 2022 
- Amser: 2:00pm - 7:00pm
- Rhanbarth: Cymru Gyfan