Cefnogaeth Digidol
Addysg Gymunedol Gwynedd & Môn

Bydd nifer o sefydliadau yn dod ynghyd yn Llyfrgell Llangefni rhwng 11yb a 3yp. Galwch mewn i ddarganfod mwy am y nifer fawr o wasanaethau digidol a’r gefnogaeth sydd ar gael i’w defnyddio nhw. Bydd y Gwasanaeth Llyfrgell yn dangos sut i ddefnyddio BorrowBox, Libby, Transparent Language Online, Ancestry, NewsBank a Theory Test Pro. Cewch wybod mwy am Fy Iechyd Arlein gan Medrwn Môn ac fe fydd Menter Iaith Môn yn dangos yr apiau sydd ar gael i helpu teuluoedd i wneud mwy o ddefnydd o’r Gymraeg a phrosiectau eraill. Mae Cymunedau Digidol Cymru yn dod a’r Beic Google a VR gyda nhw er mwyn cael profiad digidol dipyn yn wahanol. Trafod ac arddangos eu cynlluniau digideiddio casgliadau cyffroes, Find My Past a’u gwasanaethau eraill fydd yr Archifdy ac Oriel Môn.
Dewch draw i fwynhau paned yn awyrgylch hamddenol y Llyfrgell tra’n dysgu am bob dim digidol.
Manylion
- Dyddiad: 20th Hydref 2022 
- Amser: 11:00am - 3:00pm
- Rhanbarth: Gogledd Orllewin Cymru
- E-bost: BethanHughes-Jones@ynysmon.llyw.cymru