Croeso i #CrowdCymru
CrowdCymru

Shwmae! Fy enw i yw Jen ac rwyf newydd ddechrau gweithio ar brosiect cyffrous iawn gyda gwirfoddolwr ac archifau digidol sydd wedi ei ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Bydd y prosiect yn cael ei redeg ar y cyd gan Archifau Gwent, Archifau Morgannwg a Chasgliadau Arbennig ac Archifau Prifysgol Caerdydd.
Bydd modd cyrraedd y prosiect drwy’r platfform torfoli a sefydlwyd gan staff y Llyfrgell Genedlaethol, a byddant wrth law i helpu gydag unrhyw faterion technegol a chyngor. Bydd y prosiect hwn o ddiddordeb mawr i’r rheiny sydd eisiau gwirfoddoli gydag archifau De Cymru ond sydd methu teithio i unrhyw un o’r safleoedd. Mae’r prosiect hwn yn gwbl ddigidol, felly does dim ots ble rydych chi cyn belled â bod gennych chi fynediad ar-lein!
Mae gan wasanaethau archifau ledled Cymru filiynau o gofnodion anadferadwy, ond mae llawer ohonynt heb ei gatalogio’n llawn felly mae’n anodd eu hadnabod a’u canfod. Bydd y project yn creu llwyfan ar-lein dwyieithog er mwyn i wirfoddolwyr sydd yn gweithio o bell i dagio, anodi, a disgrifio’r casgliadau treftadaeth ddigidol a gedwir o fewn yr ystorfeydd eithriadol hyn. Bydd y project hwn yn harneisio gwybodaeth unigolion mewn cymunedau ar draws Cymru a thu hwnt i gyfoethogi ein treftadaeth er budd cenedlaethau presennol a’r dyfodol – yn lleol, yn genedlaethol, ac yn fyd-eang.
Bwriad partneriaid y prosiect yw sicrhau bod amrywiaeth gyffrous iawn o gasgliadau ar gael i wirfoddolwyr eu harchwilio a gweithio arnynt. Mae hyn yn gynnwys Ffotograffau Cymuned Dociau Caerdydd yn gasgliadau Archifau Morgannwg. Portreadau yw’r rhain o unigolion a grwpiau o gymuned dociau Caerdydd, a gymerwyd rhwng 1900-1920. Cafodd llawer ohonyn nhw eu cymryd gan Fred Petersen o Bute Street, gŵr o Ddenmarc (Copenhagen) a ymsefydlodd yng Nghaerdydd ar ddiwedd y 19eg ganrif. Bydd casgliad Archif Edward Thomas, archif bersonol anarferol o eang a manwl o un o’r beirdd rhyfel llai adnabyddus, hefyd yn rhan o’r prosiect yma. Mae’r casgliad hwn yn rhan o Casgliadau Arbennig ac Archifau Prifysgol Caerdydd, ac mae’n cynnwys gohebiaeth bersonol, cerddi llawysgrifol a theipysgrif wreiddiol, dogfennau swyddogol, a ffotograffau.
Cofrestrwch i wella’ch sgiliau TG a llythrennedd, eich gwybodaeth am hanes lleol de Cymru a chael profiad o wirfoddoli!
Pwy a ŵyr pa straeon y byddwn ni’n eu darganfod? Pa ddirgelion y gallwn ni eu datgladdu? Felly, os oes gennych fynediad ar-lein, ychydig o amser ar eich dwylo a hoffech fod yn rhan o’r prosiect hwn, cysylltwch â mi.
Jennifer Evans
Digital Volunteering Project Officer / Swyddog Prosiect Gwirfoddoli Digidol
Twitter: @CrowdCymru
Email / Ebost: jennifer.evans@gwentarchives.gov.uk
Manylion
- Dyddiad: 1st Tachwedd 2022 - 31st Gorffennaf 2023 
- Amser: 9:00am - 5:00pm
- Rhanbarth: De Ddwyrain Cymru
- Ffôn: 01495742450
- E-bost: Jennifer.Evans@GwentArchives.gov.uk