Cyflwyniad i Ysgrifennu Creadigol a Chyhoeddi
Addysg Gymunedol Gwynedd & Môn
CYRSIAU I OEDOLION GYDA REDSTART PUBLISHING
Rydym yn falch o fod yn cydweithio gyda Gwasanaeth Llyfrgell Ynys Môn yn y Llyfrgell newydd hyfryd sydd wedi ei lleoli yn Neuadd y Farchnad yng Nghaergybi. Ddiwedd Hydref byddwn yn cynnig cyrsiau byrion i oedolion gan gynnwys, ysgrifennu creadigol, ffotograffiaeth, cyhoeddi a darllen beirniadol.
Bydd y cyrsiau yn cael eu harwain gan rai o tîm Redstart, Tony Roberts, Lynne Morris, Samuel Verdin a Dr Abigail Ruth Price ac fe fydd croeso i unrhywun 19 oed a throsodd i gymryd rhan.
Yn dilyn darlithoedd llwyddiannus ym Mhrifysgol Bangor mae hwn yn gyfle anhygoel i ni rannu nid yn unig yr hyn rydym wedi ei ddysgu wrth ddod yn gyhoeddwyr, ond hefyd rhai o’n sgiliau a phrofiadau o ddweud stori dda!
CYRSIAU ARFAETHEDIG MEWN CYDWEITHREDIAD GYDA GWASANAETH LLYFRGELL CYNGOR SIR YNYS MÔN:
Teitl y Cwrs:
Cyflwyniad i Ysgrifennu Creadigol
Sam Verdin
Mae Sam Verdin yn Olygydd Creadigol gyda Redstart Publishing ac yn olygydd copi a guru cyfryngau llawrydd. Bwriad y gweithdy hwn yw i gyflwyno hanfodion ysgrifennu creadigol a rhoi’r hyder i chi i gychwyn dysgu am ysgrifennu yn greadigol yn unrhyw gyfrwng. Bydd enghreifftiau o farddoniaeth, rhyddiaith a scriptio.
Teitl Cwrs:
Celf a Ffotograffiaeth Digidol
Lynne Morris
Mae Lynne Morris ynartist digidol ac awdur gwobredig. Dewch i grwydro’r bydoedd llawn hiwmor, creadigrwydd a dychymyg ym mhen Lynne Morris. Bydd y sesiwn yn eich cyflwyno i’r gelfyddyd o greadigrwydd digidol.
Teitl Cwrs:
Dod yn Awdur – Cyhoeddi a’r Broses Greadigol
Tony Roberts
Rheolwr Gyfarwyddwr Redstart Publishing ydi Tony Roberts ac hefyd yn awdur ar y gyfres hynod boblogaidd Alfie a’r Ddraig. Mae Tony yn byw ar Ynys Môn ar arfordir hyfryd gogledd orllewin Cymru wedi derbyn cydnabyddiaeth byd eang ac wedi gwerthu miloedd o gopiau o’i lyfrau hyd a lled y byd.
Teitl Cwrs:
Cyfathrebu a Iaith yn y Celfyddydau Creadigol
Dr Abigail Ruth Price
Abi yw’r diweddaraf i ymuno â thîm Redstart ac mae ganddi ddoethuriaeth mewn Ieithyddiaeth ac arbennigedd mewn cyfathrebu diwylliant a iaith. Bydd y cwrs yma yn trafod agweddau creadigol at ddysgu a sut y gall y sgiliau yma gael eu defnyddio i ddatblygu cyfleoedd a lles dysgwyr yn y gweithle a thu hwnt.
Manylion
- Dyddiad: 21st Hydref 2022 
- Amser: 10:00am - 3:00pm
- Rhanbarth: Gogledd Orllewin Cymru
- E-bost: BethanHughes-Jones@ynysmon.llyw.cymru