Find your Calm – Rhaglen Fer Ar-lein Am Ddim sy’n cynnwys 3 Rhan, ac sy’n seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar
Wisdom Circles

Fel rhan o’r Wythnos Addysg Oedolion, mae’n bleser gan Sangeet Bhullar (sylfaenydd Wisdom Circles a WISE KIDS) gynnig rhaglen Fer Ar-lein am ddim sy’n cynnwys 3 Rhan, o’r enw ‘Find Your Calm’, sy’n agored i unrhyw un 18+ oed yng Nghymru.
Mae’n addas i unrhyw un y mae ganddynt ddiddordeb mewn dysgu mwy am y ffordd y gallant feithrin arfer ymwybyddiaeth ofalgar yn ystod eu bywydau bob dydd er mwyn gwella eu lles. Bydd y 3 sesiwn, a fydd yn para 45 munud yr un, yn cyflwyno ymwybyddiaeth ofalgar a myfyrio ar gyfer ymwybyddiaeth ofalgar. Bydd yn archwilio sut y mae ymwybyddiaeth ofalgar yn ymwneud â bod yn bresennol, y gwyddoniaeth sy’n sail i ymwybyddiaeth ofalgar a sut y mae ymwybyddiaeth ofalgar yn ymwneud â hunan-drugaredd, derbyniad a lles. Yn ogystal, bydd modd i’r cyfranogwyr droi at dudalen breifat ar y we a fydd yn cynnwys dolenni ac adnoddau aml-gyfrwng, gan gynnwys recordiadau o fyfyrdodau ymwybyddiaeth ofalgar. Cyflwynir y rhaglen gan ddefnyddio Microsoft Teams.
Cynhelir y 3 sesiwn ar 20, 22 a 26 Medi rhwng 8.00pm a 8.45pm – ar-lein ar Microsoft Teams.
Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig, a byddant yn cael eu neilltuo ar sail y cyntaf i’r felin.
Estynnir gwahoddiad i chi gofrestru gan ddefnyddio’r ddolen hon:
https://forms.gle/FcX4CjJUYHPjdmvDA
Cefnogir y rhaglen hon gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith yng Nghymru, fel rhan o’r Wythnos Addysg Oedolion (19 i 25 Medi).
Sylwer: Bydd yr holl rai a fydd yn cofrestru yn cael y manylion ymuno wythnos cyn i’r sesiynau gychwyn.
Details
- Date: 20th September 2022 
- Time: 8:00pm - 8:45pm
- Region: All Wales
- Telephone: 07540707258