Hyrwyddo Lles Digidol a Chydnerthedd Digidol ar gyfer Eich Plentyn – Gweminar ar-lein am ddim
WISE KIDS

Fel rhan o’r Wythnos Addysg Oedolion, mae Dr Sangeet Bhullar o WISE KIDS yn cynnig gweminar ar-lein 90 munud am ddim i rieni/gofalwyr ar draws Cymru, o’r enw:
‘Hyrwyddo Lles Digidol a Chydnerthedd Digidol ar gyfer Eich Plentyn’
Bydd y weminar hon yn cynnig trosolwg o’r tirlun digidol ar-lein sy’n newid, a’r cyfleoedd a’r sialensiau y gall hyn eu cyflwyno i blant a phobl ifanc. Bydd yn helpu rhieni/gofalwyr/gweithwyr proffesiynol i ddeall sut y gallant feithrin sgiliau meddwl beirniadol eu plant, eu llythrennedd digidol a’u lles digidol mewn ffordd sy’n briodol i’w hoedran, fel eu bod yn gallu defnyddio’r Rhyngrwyd mewn ffordd fwy cadarnhaol a diogel. Yn ogystal, bydd y weminar yn rhannu strategaethau ac adnoddau ymarferol y gall cyfranogwyr eu defnyddio i’w cynorthwyo yn y rôl hwn.
Cynhelir y weminar ryngweithiol hon ar nos Lun 26 Medi rhwng 5.15pm a 6.45pm – ar-lein ar Microsoft Teams.
Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig a chânt eu neilltuo ar sail y cyntaf i’r felin. Gallwch gofrestru yma:
https://forms.gle/Wb3acj1oZN1nNwx5A
Bydd yr holl rai sy’n cofrestru yn cael y manylion er mwyn ymuno wythnos cyn y digwyddiad.
Cefnogir y gweithdy hwn yn garedig gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith yng Nghymru, fel rhan o’r Wythnos Addysg Oedolion (19 i 25 Medi).
Manylion
- Dyddiad: 26th Medi 2022 
- Amser: 5:15pm - 6:45pm
- Rhanbarth: Cymru Gyfan
- Ffôn: 01633673339