Sesiwn Blasu ‘Dod o hyd i’ch Tawelwch’ sy’n seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar
WISDOM CIRCLES
Ydych chi’n teimlo’n chwilfrydig am Ymwybyddiaeth Ofalgar? Oes gennych chi ddiddordeb mewn ymgorffori rhywfaint o heddwch a gofod yn eich bywyd bob dydd?
Fel rhan o Wythnos Addysg Oedolion, mae Sangeet Bhullar (sylfaenydd Wisdom Circles a WISE KIDS) yn falch o gynnig sesiynau blasu ‘Find your Calm’ 75 munud am ddim yn seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar i unrhyw un 18+ oed o Gymru.
Mae hyn yn addas ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am sut y gallant ddatblygu arfer ymwybyddiaeth ofalgar yn eu bywydau bob dydd i wella eu lles.
Bydd y sesiynau blasu hyn yn cyflwyno ymwybyddiaeth ofalgar a myfyrdod yn seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar. Yn ogystal, bydd cyfranogwyr yn dysgu am y wyddoniaeth y mae ymwybyddiaeth ofalgar wedi’i seilio arni, a sut mae’r arfer o ymwybyddiaeth ofalgar yn ymwneud â hunandosturi, derbyniad a lles. Bydd gan gyfranogwyr hefyd fynediad i dudalen we breifat, a fydd yn cynnwys dolenni ac adnoddau amlgyfrwng, gan gynnwys recordiadau o fyfyrdodau ymwybyddiaeth ofalgar.
Cynhelir y sesiwn ar y 24ain o Fedi 2024 rhwng 5.30pm a 6.45pm (ar-lein ar Microsoft Teams).
Fe’ch gwahoddir i gofrestru gan ddefnyddio’r ddolen hon: https://forms.gle/RaPHJuyVGZNQu6cD6
Cefnogir y rhaglen hon gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith yng Nghymru, fel rhan o Wythnos Addysg Oedolion 2024
Nodyn: Bydd pawb sy’n cofrestru yn cael y manylion i ymuno 2 ddiwrnod cyn i’r sesiynau ddechrau.
Manylion
- Dyddiad: 24th Medi 2024 
- Amser: 5:30pm - 6:45pm
- Rhanbarth: Cymru Gyfan
- Ffôn: 07540707258