Sesiynau Blasu Bandlab Ar-lein
Cerddoriaeth Gymunedol Cymru

Mae ein Sesiynau Blasu Bandlab Ar-lein yn boblogaidd ac yn ddelfrydol i unrhyw un sy’n ymddiddori mewn creu cerddoriaeth ddigidol neu ddysgu sut i ysgrifennu a pherfformio ar-lein. Mae’r gweithdai yn addas ar gyfer pobl ag ystod eang o alluoedd cerddorol ond mae diddordeb angerddol mewn creu cerddoriaeth neu ysgrifennu geiriau yn hanfodol. Gan mai sesiynau ar-lein ydynt, nid yw lleoliad yn rhwystr o gwbl, sy’n golygu eu bod yn gyfle ardderchog i unrhyw un sy’n awyddus i gysylltu â phobl o’r un anian. Yn ogystal, mae’r sesiynau yn hynod o fuddiol i rai sy’n teimlo wedi’u hynysu neu rai na allant gyfarfod cerddorion eraill.
Manylion
- Dyddiad: 21st Medi 2021 
- Amser: 8:00pm - 9:00pm
- Rhanbarth: Cymru Gyfan
- E-bost: admin@communitymusicwales.org.uk