Cyfrifiadura a Sgiliau Digidol – Dechreuwyr
Conwy a Sir Ddinbych Dysgu Cymunedol i Oedolin

Mae ein cyfres o gyrsiau llythrennedd digidol yn addas i’r sawl sydd am ddysgu sut i ddefnyddio technoleg mewn amgylchedd hamddenol ac anffurfiol. Cyflwynir y sesiynau gan diwtoriaid cyfeillgar fydd yn cynllunio eu gwersi i fodloni diddordebau’r myfyrwyr, pa un ai a ydynt yn astudio er mwyn datblygu eu gyrfa neu er pleser yn unig.
Byddwch yn dysgu am hanfodion defnyddio cyfrifiadur neu ddyfais. Bydd hyn yn cynnwys sgiliau sylfaenol teipio a defnyddio bysellfwrdd i lunio dogfennau.
Byddwch hefyd yn dysgu: sut i gadw’n ddiogel ar-lein, am eich ôl-troed digidol, rhyngweithio ag eraill ar-lein a defnyddio nodweddion diogelwch ar ddyfeisiau.
Byddwch yn dysgu sut i reoli eich gwybodaeth ddigidol o ffeiliau a ffotograffau i dudalennau gwe.
Byddwch yn creu/defnyddio cyfrif e-bost i gyfathrebu ag eraill ac i gofrestru ar gyfer gwasanaethau ar-lein.
Mae croeso i chi ddod â’ch dyfais eich hun i’r sesiynau.
Gall pynciau amrywio ar wahanol gampysau.
Mae’r holl gyrsiau yn dechrau ar ddyddiadau gwahanol trwy gydol y flwyddyn.
Mae’r cwrs ar gael yn y lleoliadau canlynol:
Abergele
Bae Colwyn
Conwy
Dinbych
Llandudno
Llanrwst
Prestatyn
Y Rhyl
Llandrillo-yn-Rhos
Tal-y-bont
Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth.
Manylion
- Dyddiad: 7th Medi 2023 - 21st Rhagfyr 2023 
- Amser: 9:30pm - 12:00pm
- Rhanbarth: Gogledd Orllewin Cymru
- E-bost: ditchb1m@gllm.ac.uk