Sut i Ddechrau Adeiladu’ch Coeden Deulu
Prifysgol Aberystwyth, Dysgu Gydol Oes
Ydych chi erioed wedi bod eisiau darganfod mwy am eich hynafiaid ond ddim yn gwybod ble i ddechrau? Os felly, yna dyma’r cwrs delfrydol gan y bydd yn eich helpu i ddechrau adeiladu a datblygu’ch coeden deulu eich hun o’r dechrau. Mae hefyd yn addas ar gyfer y rhai sydd eisoes wedi dechrau ymchwilio i’w coeden deulu ond a hoffai ddysgu mwy am gofnodion achyddol a sut i ymchwilio i gronfeydd data yn fwy effeithiol.
Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio’n bennaf ar ymchwil hanes teulu Prydain. Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i chwilio nifer o wefannau tanysgrifio ac achyddol am ddim yn effeithiol, yn ogystal â defnyddio a dehongli cofrestr 1939, y cyfrifiad, cofnodion sifil, cofnodion milwrol ac ewyllysiau a phrofiant.
Trwy gyswllt URL
I gael mynediad iddo, cliciwch ar y ddolen a ddarperir
Os ydych wedi cymryd rhan yn y rhagflas hwn, anfonwch eich adborth atom trwy lenwi’r ffurflen hon:
https://www.aber.ac.uk/en/media/departmental/lll/Wythnos-Addysg-Oedolion-Ffurflen-Adborth-Aysgwyr.docx
a’i e-bostio at learning@aber.ac.uk
Diolch am gymryd rhan!
Manylion
Adnodd ar-lein yw hwn
- Rhanbarth: Cymru Gyfan
- Arddull Dysgu: Ar-lein
- Ffôn: 01970 621580