Ysbrydoli Gweithgareddau Digidol gyda Chymunedau Digidol Cymru ac Amgueddfa Cymru – Museum Wales
Cymunedau Digidol Cymru
Bydd y digwyddiad yma wedi ei leoli yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn Stiwdio 1.
Bydd y sesiwn hon yn eich cyflwyno i wahanol ddyfeisiau digidol a sut i’w defnyddio i archwilio hanes ar-lein a datblygu eich hyder digidol.
Mae’r sesiwn hon yn addas ar gyfer oedolion o bob lefel gallu.
Byddwn yn:
– Archwilio a dod i afael â dyfeisiau digidol gan gynnwys tabledi
– Dangos sut i ddefnyddio offer digidol o ddydd i ddydd i archwilio’r we i ddarganfod mwy am hanes Cymru ac Amgueddfeydd Cymru.
– Trafod sut i gael mynediad at gynnwys dysgu ar y we i’ch helpu i ddatblygu eich sgiliau digidol a’ch hyder.
Bydd y sesiwn hon yn cael ei chyflwyno yn Saesneg, ond mae aelod o’n tîm yn gallu cyfathrebu yn Gymraeg.
Manylion
- Dyddiad: 21st Medi 2022 
- Amser: 2:00pm - 3:30pm
- Rhanbarth: De Ddwyrain Cymru
- Ffôn: 07384 251 865