Adult Learners Week
  • English
  • Cymraeg
Mewngofnodi Darparydd
  • Facebook
  • Twitter
  • Instagram
  • Youtube
  • CARTREF
  • Cael Ysbrydoli
    • Newid Dy Stori
    • Enillwyr Gwobrau
    • Cyfres Podlediad
    • Newyddion a Blogiau
  • Cyrsiau A Digwyddiadau
    • Chwilio pob Cwrs a Digwyddiad
    • Rhestr Darparwyr
  • Amdanom
  • Cyswllt
    • Gwybodaeth i Ddarparwyr
    • Ble Nesaf?
Select Page

Essential Skills for Life Award

Bethan Humphreys

Cafodd Bethan Humphreys amser anodd yn yr ysgol, roedd yn cael ei bwlio a gadawodd heb lawer o gymwysterau. Gan weithio fel cynorthwyydd mewn cegin ysgol ac ystafell ddosbarth, penderfynodd ddychwelyd i ddysgu gan gymryd dosbarthiadau mewn mathemateg a Saesneg. Bu’n gweithio ar gymwysterau Mynediad 3 cyn ennill ei Thystysgrif Sgiliau Hanfodol ar gyfer Bywyd a Gwaith. Mae’n awr yn gweithio ar NVQ i ddod yn Gynorthwyydd Ystafell Ddosbarth. “Roeddwn yn y set isaf pan oeddwn yn yr ysgol uwchradd a ni theimlais y gallwn fyth fod yn dda am fathemateg, ond gyda chefnogaeth fy nhiwtor rwyf hefyd wedi medru cynyddu fy hyder. Rwy’n awr yn anelu i wneud TGAU mewn mathemateg.”

Bu bywyd yn heriol, cafodd ei merch lawdriniaeth fawr ac mae wedi gorfod ymdopi gyda chyfnodau o iselder a phryder. Yn 2020 bu llifogydd yn ei chartref gan orfodi’r teulu i symud i lety arall. “Fe wnaethom ddeffro i ddarganfod dwy droedfedd o ddŵr yn y tŷ. Llwyddodd fy ngŵr i arbed fy ngwaith cwrs a fe wnaeth Sharon, fy nhiwtor, ei sychu a’i smwddio! Fe wnaethom symud i westy am ychydig o nosweithiau ac yna symud i dŷ am chwe mis arall.”

Er gwaethaf y cythrwfl, fe wnaeth Bethan ddal ati i astudio: “Fe wnaeth fy ngŵr helpu gyda dysgu’r plant gartref pan darodd Covid gan ei fod allan o waith am gyfnod ar ôl pan gyhoeddwyd y cyfnod clo. Mae bob amser wedi bod yn gefnogol iawn. Fe wnes lwyddo i ffitio’r astudio o amgylch y plant. Byddwn yn mynd at fy llyfrau ar ôl iddynt fynd i’r gwely, ond fe fyddem hefyd i gyd yn eistedd o amgylch bwrdd y gegin – fy merch gyda’i gwaith cartref, fi a fy mab gyda’n gyda’n gwaith coleg.”

Cafodd Bethan ei henwebu gan Sharon Shaw, Darlithydd Sgiliau Bywyd Grŵp Llandrillo Menai. Dywedodd: “Mae Bethan yn un o’r myfyrwyr sydd bob amser yn gwthio ei hunan i weithio drwy ei gwaith cartref ac yn cysylltu â fi i gael mwy o waith. Os yw’n mynd i drafferthion, yna mae bob amser yn neilltuo amser i gwrdd i gael mwy o hyfforddiant fel y gall orffen yr ymarferion. Mae bob amser yn bleser bod gyda Bethan ac mae ei hymroddiad i’w chwrs yn aruthrol.“

Ond ar ôl holl bwysau llawdriniaeth, llifogydd ac yna’r pandemig, cafodd Bethan ymosodiad pryder difrifol: “Fe wnaeth popeth ddal i fyny gyda fi ac roeddwn i ffwrdd o’r gwaith am dri mis. Fe wnes ddal ati i wneud ychydig o astudio gan ei fod yn fy helpu i fynd â fy meddwl oddi ar bethau.” Mae dychwelyd i ddysgu wedi rhoi’r hyder i Bethan barhau i adeiladu ei sgiliau, astudio wrth ochr ei theulu a ehangu ei rôl yn yr ysgol. Mae’n awr yn ôl yn y gwaith ac yn cymryd mwy o gyfrifoldebau yn yr ysgol i gyflawni ei huchelgais o ddod yn Gymhorthydd Addysgu.

Adult Learners Week
  • English
  • Cymraeg
  • Facebook
  • Twitter
  • Instagram
  • Youtube
GOV Wales
ESF
Learning and Work Institute
  • CARTREF
  • Cael eich Ysbrydoli
    • Newid Dy Stori
    • Newyddion a Blogiau
  • Canfod Digwyddiad
    • Chwilio Digwyddiad Rhydd
    • Rhestr Darparwyr
  • Amdanom
  • Cyswllt
    • gwybodaeth-i-ddarparwyr
    • Ble Nesaf?
  • Mewngofnodi Darparydd
    • Fy Nghyfrif
    • Digwyddiadau
©2019 Sefydliad Dysgu a Gwaith. Cedwir Pob Hawl.
  • Polisi Cwcis
  • Datganiad Hygyrchedd
  • Polisi Preifatrwydd

We are using cookies to give you the best experience on our website.

You can find out more about which cookies we are using or switch them off in settings.

Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.

Strictly Necessary Cookies

Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.

If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.

Cookie Policy

More information about our Cookie Policy