Workplace Change Makers Award
Tîm Dysgu a Datblygu Cyngor Ceredigion

Pan gyflwynwyd y cyfnod clo cyntaf ar draws Prydain yn ystod pandemig Covid19, gwyddai tîm Dysgu a Datblygu Cyngor Ceredigion fod ganddynt lawer o waith ar eu dwylo. Esboniodd Debbie Ayriss, Rheolwr Dysgu a Datblygu: ”Fe wnaethom ganslo’r ychydig fisoedd nesaf o hyfforddiant wyneb-i-wyneb ac wrth i’r sefyllfa ddatblygu, fe wnaethom bennu lan yn canslo popeth yn y dyddiadur am 12 mis. “Fe wnaethom ddechrau cynyddu ein sgiliau ein hunain mewn dim o dro i gyflwyno hyfforddiant ar-lein a roedd hefyd angen i ni addasu ein cyrsiau fel y byddent yn gweithio’n rhithiol. Roedd yn her enfawr. Rwy’n wirioneddol falch fod ein tîm bach wedi rhoi pethau ar waith o fewn ychydig wythnosau ac un o’r cyrsiau cyntaf oedd delio gyda cholled a galar fel gweithiwr achos. “Roeddem eisiau helpu gweithwyr gofal cymdeithasol yn ystod y cyfnod hwn. Fe wnaethom roi modiwlau e-ddysgu at ei gilydd a fyddai fel arfer yn cymryd tri mis i’w datblygu a’u profi ond fe wnaethom lwyddo i dynnu pethau at ei gilydd a chael y cyrsiau yn barod mewn pedair wythnos.”
Tra bod y staff yn cael eu helpu staff y cyngor i ddod i arfer gyda gweithio ar-lein, cafodd modiwlau tebyg i Cyflwyniad i Gofal Cymdeithasol a Gofal Personol, Codi a Chario, Atal a Rheoli Haint hefyd eu hymestyn. “Roedd llawer o’r staff newydd gael eu recriwtio yn cynnwys y Tîm Profi, Olrhain a Diogelu a chafodd rhai staff eu symud i swyddi rheng flaen gan weithio yn y gymuned, felly roeddent wirioneddol angen yr hyfforddiant.” Cyn Covid, roedd Jenny Thompson yn gweithio fel cynorthwyydd cegin mewn ysgol ac yn glanhau yng Nghanolfan Dysgu Annibynnol y cyngor. Cafodd ei symud i’r Tîm Galluogi Gofal Cymdeithasol sy’n darparu gofal a chymorth yng nghartrefi pobl. Yn gweithio’n gyntaf ar sail llanw, erbyn hyn mae wedi cael swydd barhaol fel Gweithiwr Gofal a Chymorth.
Dywedodd Jenny, “Fe wnes orffen llawer o hyfforddiant yn cynnwys symud a thrin pobl ac fe wnaeth hyn fy helpu i gynefino a theimlo’n fwy parod ar gyfer swydd newydd. Rwy’n awr yn gwneud swydd rwy’n ei mwynhau. fyddwn i ddim wedi cyrraedd mor bell ag y gwnes heb yr hyfforddiant.” Ynghyd â Chronfa Dysgu Unsain Cymru, Hafan Cymru a Swyddog Iechyd a Llesiant Gweithwyr Cyngor Sir Ceredigion, cyflwynwyd rhaglen sylweddol o gymorth Llesiant a Iechyd Meddwl oedd yn cynnwys, am y tro cyntaf erioed, gyfres o sesiynau Ymwybyddiaeth o’r Menopause.
Mae darparu hyfforddiant ar-lein wedi gweld cynnydd yn nifer y staff sy’n mynychu cyrsiau. Ymunodd cyfanswm o 11,577 o staff â sesiynau rhwng mis Ebrill 2020 a mis Mawrth 2022, cynnydd o 4% ar y ddwy flynedd flaenorol ac mae cynllunio yn parhau ar gyfer y dyfodol. “Rydym wedi gwneud newidiadau fydd yn cael effaith barhaus ac maent yn rhai o’r pethau cadarnhaol a ddeilliodd o Covid. Ond mae gennym waith yn dal i fod o’n blaenau ar sgiliau digidol sydd yn nesaf ar ein rhestr Pethau i’w Gwneud”.