Young Adult Learner Award
Ewan Heppenstall

Ymrestrodd Ewan Heppenstall yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro yn 2018, gan astudio i ddechrau ar Raglen Sgiliau Gwaith Lefel Mynediad 1. Mae gan y dyn ifanc 23 oed awtistiaeth ysgafn a dywedodd, “Nid wyf erioed wedi gadael i fy awtistiaeth fynd yn y ffordd, Ond doeddwn i ddim yn teimlo’n hyderus o gwbl yn tyfu lan. Doeddwn i erioed wedi meddwl am fy nyfodol o’r blaen ond roeddwn yn gwybod fod yn rhaid i mi ddechrau.” Ar ôl gorffen y cwrs yn llwyddiannus, dechreuodd Ewan ar y rhaglen Lefel Mynediad 3 y flwyddyn ddilynol. Fe wnaeth orffen cymhwyster BTEC yn cynnwys amrywiaeth o feysydd yn cynnwys paratoi a dysgu am y gweithle, iechyd a diogelwch yn y gwaith, gweithio mewn tîm, cynllunio a rhedeg gweithgaredd menter, sut i ymddwyn yn y gwaith, paratoi CV a gwneud cais am swyddi.
Cafodd Ewan le ar DFN Project Search – rhaglen interniaeth â chymorth rhwng Coleg Caerdydd a’r Fro a Dow Silicones UK Cyfyngedig yn y Barri. Roedd yn teimlo’n ofnus i ddechrau, ond tyfodd ei hyder mewn dim o dro. “Roedd yn rhaid i mi wneud cyfweliad fideo i wneud cais, ac roeddwn yn un o ddim ond chwech o bobl i gael lle. Meddyliais, ‘gallai hyn fod fy nghyfle mawr.’ Fe wnaeth wirioneddol agor fy llygaid. Dysgais fwy am ddefnyddio llawer o wahanol raglenni cyfrifiadur fel Excel a Word.” Ar ôl gorffen un interniaeth yn Dow ar-lein, roedd yn edrych ymlaen at symud i’r safle unwaith y llaciodd cyfyngiadau Covid: “Roedd yn brofiad diddorol ac yn rhoi golwg dda ar sut beth yw bywyd gwaith. Roeddwn yn gweithio gyda thîm; roedd pobl yn fy nghefnogi i a finnau’n eu cefnogi hwythau. Fe wnes wirioneddol fwynhau canfod beth oeddwn eisiau ei wneud.
Roeddwn yn gwybod fy mod yn dda gyda phobl, a gallais ddefnyddio’r sgiliau a’r wybodaeth roeddwn wedi eu hennill mewn amgylchedd gwaith go iawn.” Dywedodd Wayne Carter, Pennaeth Paratoi ar gyfer Gwaith, Bywyd a Dysgu Coleg Caerdydd a’r Fro: “Mae Ewan yn enghraifft wych o’r daith yr aiff pobl ifanc arni. O fod yn unigolyn swil a thawel heb fawr o hyder a sgiliau gwaith, mae Ewan bellach yn credu ynddo ei hun. Rydym wedi ei ymestyn a’i herio ac wedi rhoi cyfleoedd y gall ffynnu arnynt, gan ganolbwyntio ar y pethau y gall e,u gwneud ac nid yr hyn na all wneud.”
Mae Ewan yn awr yn gweithio’n llawn-amser yn CF10 Retail – siop ar gampws y Coleg: “Rwyf bob amser yn awyddus i fynd amdani a gweithio’n galed. Mae pobl yn fy ngweld fel ased, rwyf wrth fy modd yn gweithio yno.” Mae Ewan yn hyrwyddo cyfleoedd i bobl anabl ymuno â’r gweithle. Ychwanegodd: “Dylai pobl anabl gael eu cynnwys a chael cyfle i’w profi eu hunain. Dylai mwy o gyflogwyr ein cynnwys.” Mae bellach hefyd yn cyflwyno gweithdai cymhelliant i ddysgwyr eraill sy’n dechau ar eu teithiau eu hunain: “Gwnewch eich gorau a mynd amdani. Gall addysg a hyfforddiant sgiliau agor drysau a gall roi ail gyfle i bawb.”