Wales for Future Generations Award
Groundwork North Wales

Mae Groundwork Gogledd Cymru yn cefnogi llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol cymunedau ar draws Gogledd Cymru drwy brosiectau a gweithgareddau addysgol. Roedd prosiect WeCare yn gynllun tair blynedd a ddechreuodd yn 2019 i weithio gyda chymunedau lleol i wneud gwelliannau amgylcheddol i drawsnewid mannau gwyrdd oedd wedi eu hesgeuluso. Gan drosglwyddo sgiliau a gwybodaeth wrth fynd, caiff cymunedau bopeth maent eu hangen i barhau i feithrin dolydd blodau gwyllt, gerddi cudd a gofod tyfu cymunedol. Lorna Crawshaw yw Pennaeth Rhaglenni a Phartneriaethau yr elusen. Esboniodd: “Mae WeCare yn wirioneddol wedi rhagori ar ddisgwyliadau, er her y pandemig. Nod y prosiect oedd addysgu a datblygu galluedd rhai o gymunedau mwyaf amddifadus y Gogledd i gadw ac adfywio eu hamgylcheddau naturiol lleol ac adeiladu balchder a chysylltiadau gyda’r amgylcheddau hyn.
“Roedd ymgynghori gyda’r gymuned leol yn allweddol i lwyddiant y prosiectau. Gwahoddwyd ysgolion lleol i ymuno i roi cyfle i’r plant i gymryd rhan a dysgu am beillwyr ac annog dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o’r amgylchedd ehangach.”
Ym Mangor, mae’r gymuned wedi plannu blodau gwyllt ac yn tyfu llysiau ar ran o stad lle’r oedd llawer o dipio anghyfreithlon yn arfer bod. “Nid dim ond y lle ei hun sydd wedi cael gwedd newydd, mae gan y gymuned bellach y sgiliau i gario ymlaen a mwynhau ei fanteision. Rydym eisiau i’r prosiectau barhau am hir ar ôl i ni adael y safle, ond nid ydym byth yn cerdded i ffwrdd yn llwyr. Rydym bob amser ar gael, mae’n bwysig i ni ein bod yn gadael gwaddol,” meddai Lorna.
Mae’r prosiect wedi gwella cyfanswm o 13 fannau cyhoeddus, symud 410 cilogram o wastraff o fannau cyhoeddus gyda 28,000 o bobl wedi manteisio o’r gweithgareddau. Bu’r elusen hefyd yn cyflwyno addysg i wella llesiant economaidd. Gan ganolbwyntio ar y rhai mwyaf bregus, mae’r elusen hefyd yn cefnogi pobl gyda chyngor ar sut i wresogi eu cartrefi yn effeithiol. “Mae mwy o bobl nag erioed o’r blaen mewn tlodi tanwydd. Buom yn cyflwyno Canllawiau a Chyngor am Ynni am fwy na 10 mlynedd erbyn hyn, sy’n golygu ein bod yn mynd i gartrefi pobl a’u helpu i wneud newidiadau bach i arbed ynni.”
Agorodd Canolfan Adnewyddu Atgyweirio ac Ailddefnyddio ym Mwcle ym mis Mehefin 2021. Gall y tîm addysgu a hyrwyddo newid ymddygiad ar bopeth yn ymwneud â gwastraff ac ailgylchu. Mae’r Ganolfan yn dod â’r gymuned ynghyd drwy sesiynau atgyweirio a gweithdai ailgylchu rheolaidd a chreu mwy o gyfleodd i wirfoddolwyr. Gan weithio gyda FareShare – rhwydwaith genedlaethol y Deyrnas Unedig o ailddosbarthwyr bwyd elusennol – mae’r elusen hefyd yn gwneud yn siŵr na chaiff bwyd dros ben ei wastraffu drwy redeg oergell gymunedol o ganolfan ailgylchu Adnewyddu Sir y Fflint. “Mae’r argyfwng costau byw a mwy o ymwybyddiaeth o newid hinsawdd yn adnewyddu’r diwylliant ‘Gwell Clwt na Thwll felly bydd nifer ein cleientiaid yn dal ati i dyfu, meddai Lorna.