Adult Learners Week
  • English
  • Cymraeg
Mewngofnodi Darparydd
  • Facebook
  • Twitter
  • Instagram
  • Youtube
  • CARTREF
  • Cael Ysbrydoli
    • Newid Dy Stori
    • Enillwyr Gwobrau
    • Cyfres Podlediad
    • Newyddion a Blogiau
  • Cyrsiau A Digwyddiadau
    • Chwilio pob Cwrs a Digwyddiad
    • Rhestr Darparwyr
  • Amdanom
  • Cyswllt
    • Gwybodaeth i Ddarparwyr
    • Ble Nesaf?
Select Page

Different Past Shared Futures Award Winner

Hisham Saeed

20 oed oedd Hisham Saeed pan gyrhaeddodd Brydain yn 2017. Roedd ei fam wedi marw pan oedd yn ifanc iawn ac yntau yn byw mewn pentref tu allan i ddinas Mosul yng ngogledd Iraq, nid oedd erioed wedi cael cyfle i fynd i’r ysgol. Fe wnaeth ei fam-gu a’i dad-cu ei annog i ffoi o Iraq ac ar ar ôl taith hir a pheryglus i Brydain, daeth i Abertawe.

Bu astudio yn freuddwyd i Hisham bob amser: “Roeddwn yn byw gyda fy nhad-cu a fy mam-gu, ac roedd yn rhaid i mi ofalu am y fferm. Dysgodd fy nhad-cu fi i ddarllen ac ysgrifennu ond bu’n rhaid i ni symud a gadael popeth pan
ddaeth y rhyfel. “Fedrwn i ddim siarad unrhyw Saesneg pan gyrhaeddais. Nid oeddwn yn adnabod neb yma ac roedd popeth yn teimlo mor rhyfedd. Doeddwn i ddim yn adnabod unrhyw Gwrdiaid felly roeddwn yn teimlo’n eithaf unig.”

Dechreuodd ddysgu Saesneg mewn sesiynau galw heibio gan Cymorth Ceiswyr Lloches Abertawe: “Fe wnes ymuno â grŵp bach o bobl yn dysgu Saesneg ond fe wnaethon nhw hefyd roi bwyd a dillad i fi.” Cafodd ei lywio at Goleg Gŵyr Abertawe lle dechreuodd ar gwrs Saesneg fel Ail Iaith (ESOL). Roedd mor benderfynol fel iddo ddewis hefyd astudio TGAU mewn mathemateg a chemeg ar yr un pryd: “Dywedais mod i eisiau gwneud rhywbeth mwy anodd a mod i eisiau mynd i brifysgol. Fy mreuddwyd yw gweithio mewn gwyddor feddygol. Fe basiais fy ESOL a chefais raddau da yn fy mathemateg a chemeg.” Daliodd Hisham ati gyda’i astudiaethau er gwaethaf cyfnod o fod yn ddigartref: “Roeddwn yn byw ar y stryd am gyfnod. Doedd gen i ddim cartref”. Gyda chefnogaeth prosiect Share Tawe, cafodd le i aros gyda theuluoedd nawdd: “Roeddwn yn lwcus iawn, fe roddodd teuluoedd hyfryd le i mi ac rwyf mor ddiolchgar.”

Penderfynodd wneud pedair TGAU arall a nawr yn 25 oed mae’n gorffen ei arholiadau lefel A ac yn gobeithio cael ysgoloriaeth i astudio Fferylliaeth ym Mhrifysgol Abertawe. Mae rhoi yn ôl yn bwysig i Hirsham. Gan gyfieithu o’r Gwrdeg i Saesneg ar gyfer ceiswyr lloches a ffoaduriaid, mae’n mynychu apwyntiadau meddygol i helpu pobl eraill i gofrestru gyda meddyg teulu neu esbonio materion iechyd. Mae’n gwirfoddoli yn Matt’s Cafe sy’n darparu prydau a gwasanaethau eraill i bobl ddigartref: “Mae Abertawe mor bwysig i mi. Mae’n lle a wnaeth fy ngweld ar fy isaf. Ond fe wnaeth cymaint o bobl helpu, wnes i erioed dorri fy nghalon. Ble bynnag yr ydych yn dod ohono, does dim yn amhosibl os rhoddwn ddigon o ymdrech i rywbeth.”

Cafodd Hisham ei enwebu gan Sadie Evans, darlithydd ESOL yng Ngholeg Gŵyr Abertawe. Dywedodd: “Mae penderfyniad ac uchelgais cadarn Hisham wedi gwneud argraff fawr ar bawb ohonom. Mae ganddo stori anhygoel
a mae’n enghraifft wych o sut y gall addysg drawsnewid eich bywyd.”

Adult Learners Week
  • English
  • Cymraeg
  • Facebook
  • Twitter
  • Instagram
  • Youtube
GOV Wales
ESF
Learning and Work Institute
  • CARTREF
  • Cael eich Ysbrydoli
    • Newid Dy Stori
    • Newyddion a Blogiau
  • Canfod Digwyddiad
    • Chwilio Digwyddiad Rhydd
    • Rhestr Darparwyr
  • Amdanom
  • Cyswllt
    • gwybodaeth-i-ddarparwyr
    • Ble Nesaf?
  • Mewngofnodi Darparydd
    • Fy Nghyfrif
    • Digwyddiadau
©2019 Sefydliad Dysgu a Gwaith. Cedwir Pob Hawl.
  • Polisi Cwcis
  • Datganiad Hygyrchedd
  • Polisi Preifatrwydd

We are using cookies to give you the best experience on our website.

You can find out more about which cookies we are using or switch them off in settings.

Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.

Strictly Necessary Cookies

Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.

If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.

Cookie Policy

More information about our Cookie Policy