Different Past: Shared Futures Award - Highly Commended Nominee
Ida Mirzaee

Daeth Ida Mirzaee i Gymru yn 2020 ar ôl ffoi o’i mamwlad yn Iran. “Pan gyrhaeddais Gymru gyntaf, yn union cyn pandemig Covid-19, doedd gen i ddim ffrindiau, a doeddwn i ddim yn adnabod neb. Gwnaeth Covid pethau yn waeth byth.”
“Y cam cyntaf dysgu a gymerais yng Nghymru oedd ymuno yn y dosbarthiadau Saesneg ar-lein gan athrawon gwirfoddol Cyngor Ffoaduriaid Cymru yn ystod y pandemig. Fe wnaeth cymryd rhan mewn gweithgaredd dysgu newid popeth. Roedd y dosbarthiadau mor ddefnyddiol i mi gan roi rhaff bywyd i mi mewn cyfnod anodd iawn.” O’r dechrau hwn, symudodd Ida ymlaen i ddosbarthiadau ESOL (Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill) yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro. Dywedodd, “Ni fedraf ddychmygu fy nhaith dysgu heb sôn am bwysigrwydd yr athrawon, darlithwyr a’r dysgwyr eraill – yn arbennig yn ystod cyfnodau clo! Fe wnaeth y dosbarthiadau hyn gynyddu fy hyder a rhoi cyfle i gymdeithasu gyda phobl a ffrindiau newydd.”
Gwnaeth Ida gynnydd mor dda fel iddi gael gynnig Ysgoloriaeth Noddfa i astudio gradd meistr mewn animeiddio ym Mhrifysgol De Cymru. Wrth siarad am ei dysgu ac ailsefydlu dywedodd, “Mae fel pe byddech yn sefyll yn ymyl ffordd brysur. Mae un ffordd yn eich arwain i weithio mewn bwyty neu fynd â bwyd o
gwmpas, y math o swydd nad yw angen y sgiliau neu’r cymwysterau a all fod gennych. Gall gwneud y swyddi hyn, pan y gwyddoch fod gennych fwy i’w gynnig, arwain at broblemau iechyd meddwl gan y teimlwch nad ydych yn cael eich gwerthfawrogi’n iawn ac nad ydych fawr o ddefnydd i gymdeithas. Fodd bynnag, yn y cyfeiriad arall, os ydych yn lwcus, gallwch ddefnyddio eich sgiliau a’ch profiad a datblygu gyrfa broffesiynol a bod yn ddefnyddiol i gymdeithas. Mae’n awr obaith ar y ffordd hon, lle nad oedd dim o’r blaen.”
Mae profiadau Ida yn golygu ei bod wedi ymroi i gefnogi ac ysbrydoli pobl eraill i ddilyn eu breuddwydion. “Oherwydd y profiad dysgu yma, rwyf wedi addo y byddaf yn gwneud yr un peth yn fy mywyd i. Rwyf wedi addo i fy hun i helpu pobl eraill. Gobeithio y gallaf ysbrydoli pobl eraill i ddilyn eu breuddwydion. Rwy’n credu fod addysg yn cynnig gobaith yn y presennol a’r addewid o fywyd crwn a gwerth chweil yn y tymor hirach.”