Skills for Work Award
Jenna Smith

Pan darodd y pandemig roedd Jenna Smith yn gweithio mewn ysbyty fel Gweithiwr Cymorth Iechyd Clinigol, ar ôl ennill Diploma Lefel 2 mewn Iechyd clinigol. Cafodd y ward y gweithiai arni ei throi yn Uned Dibyniaeth Uchel ar gyfer cleifion Covid-19: “Roedd yn gyfnod heriol iawn. Mae’n anodd iawn gweld cleifion mor wael a gofidus.
Roeddwn bob amser yn gorfod paratoi fy hunan ar gyfer shifft sefyllfa achos gwaethaf. Roedd ail don Covid-19 yn llawer gwaeth i ni. Roedd gennym ward lawn o 23 o gleifion oedd angen gofal drwy’r dydd a’r nos a chawsom golledion anhygoel o drist.” Gan weithio shifftiau 12 awr ac yn gwisgo offer diogelu personol a masg aer-glos, roedd Jenna yn gweithio mewn amgylchedd anodd tu hwnt. Cafodd ei dau riant eu taro’n wael yn ystod yr ail don a bu’n rhaid i’r ddau fynd i’r ysbyty ar yr un diwrnod; roedd ei mam angen llawdriniaeth argyfwng.
Sylweddolodd y nyrsys ar y ward mewn dim o dro fod gan Jenna botensial mawr. Dan eu goruchwyliaeth, cafodd fwy o gyfrifoldeb, gan gefnogi’r rhai oedd yn cael anawsterau difrifol i anadlu, ac fe anogodd ei chydweithwyr hi i gymhwyso fel nyrs. “Wrth edrych yn ôl, rwy’n credu iddynt roi mwy o gyfrifoldeb i mi i fy mhrocio ymlaen i ddod yn nyrs.
Roedd yn teimlo’n dda medru helpu mwy ar y cleifion. Bu fy rheolwr ward a’r nyrsys yn anhygoel o gefnogol, ac roedd yn golygu y gallwn gamu lan ar amser gwirioneddol anodd. “Nid wyf erioed wedi bod â llawer o hyder ynof fy hun neu’r hyn y gallwn ei wneud”. Profodd Jenna chwalfa ar ôl straen a thrawma’r pandemig: “Roeddwn yn bryderus iawn a dechreuais gael ôl-fflachiau am gleifion yr oeddem wedi eu colli. Fedrwn ni ddim stopio wylo.” Gan gymryd amser i ffwrdd o’r gwaith, daliodd Jenna ati i astudio tuag at ei Diploma Lefel 3 mewn Iechyd Glinigol.
Ar ôl dychwelyd i’r gwaith, fe wnaeth gwblhau’r cymhwyster hwnnw a mynd i’r brifysgol: “Rwy’n wirioneddol edrych ymlaen at weithio fel nyrs gymwys wrth ochr y nyrsys wnaeth fy ysbrydoli. Maent yn hollol wych.” Treuliodd Jenna bum mlynedd yn gweithio fel chef. Dywedodd, “Fe wnes benderfynu nad oeddwn eisiau treulio fy nyddiau mewn cegin ar fy mhen fy hun. Roeddwn eisiau helpu pobl a chynnig gwasanaeth sy’n newid bywyd. Mae’n wirioneddol wedi fy newid. Rwy’n ffurfio perthynas dda yn gyflym gyda chleifion.” Mae wrthi’n astudio ar gyfer gradd nyrsio gyda’r Brifysgol Agored ac ar leoliad gyda Thîm Nyrsio Cymunedol
yr Ardal.
Bu Natalie Williams o ACT Training yn cefnogi Jenna drwy ei Diplomâu a gwelodd y cynnydd ynddi: “Rwyf wedi adnabod Jenna ers amser maith. Mae bob amser yn mynd yr ail filltir ac yn rhoi pawb arall yn gyntaf. Roedd Covid yn amser anodd iawn iddi ond ni wnaeth erioed adael iddo ei rhwystro oherwydd ei bod mor benderfynol i gyflawni a rhoi rhywbeth yn ôl.”