Ageing Well Award
John and Val Snare

Aeth John a Val Snare, sy’n dad-cu a mam-gu, yn ôl i’r ysgol fel y gallent helpu eu hwyrion gyda dysgu yn ystod y cyfnodau clo. Y ddau yn eu saithdegau, maent yn helpu eu mab, sy’n ŵr gweddw, i ofalu am Dylan a Luke, gan fynd â’r plant i’r ysgol ac am dro i’r parc. Roeddent hefyd yn awyddus i’w cefnogi gyda’u dysgu. Pan orfodwyd ysgolion i gau yn ystod y pandemig, roedd John a Val yn cefnogi’r bechgyn gydag ysgol gartref tra bod eu mab yn gweithio shifftiau. Gan rannu’r cyfrifoldebau, bu John yn helpu y bachgen hynaf oedd yn wyth oed ar y pryd tra bod Val yn cefnogi’r crwt tair oed. “Doeddwn i ddim yn deall dim ar yr eirfa a’r ffordd yr oeddent yn gwneud pethau mewn mathemateg a ffoneg.
Rwyf wrth fy modd gyda rhifau ond yn ei wneud fy ffordd fy hun – ac nid dyna sut maent yn ei wneud yn yr ysgol y dyddiau hyn. Roedd yn rhaid i rywbeth newid ac roedd yn rhaid i hynny fod yn fi!,” meddai John. Yn y cyfamser, roedd Val yn ceisio dod i arfer gyda ffoneg.
“Roedd yn hollol ddieithr i mi. Doeddwn i ddim wedi gwneud unrhyw waith ysgol am hanner can mlynedd!” Felly, pan ddaeth cwrs yn cynnig cyfle i rieni a gofalwyr ddysgu sut i helpu plant gyda mathemateg, neidiodd y ddau ar y cyfle. “Daeth y bechgyn â’r taflenni gartref gyda nhw yn eu bagiau ysgol, ac fe wnaethon ni benderfynu rhoi cynnig arni” meddai Val. Gan ymaflyd gyda’r dull mathemateg newydd, fe wnaethant wedyn roi eu henwau am ddau gwrs arall – un arall mewn mathemateg ac un mewn Saesneg. Gan gwblhau Achrediad Sgiliau Hanfodol Bywyd a Gwaith Agored Cymru, aethant ymlaen i ennill dau achrediad arall y tymor diwethaf.
“Dydyn ni ddim yn dadlau am waith ysgol ddim mwy. Rydyn na’n gallu ei drafod yn well ac yn siarad eu iaith nhw. Does dim gweiddi, rydym yn fwy amyneddgar ac mae’n fwy pleserus yn gyffredinol. Rydyn ni eisiau eu gweld yn gwneud yn dda a rydyn ni eisiau gwneud yr hyn a allwn i helpu,” meddai John. Mae’r ddau yn awr yn edrych ar gofrestru ar gwrs i helpu’r plant gydag ysgrifennu. Mae John yn awyddus i ddilyn cyrsiau gloywi mewn mathemateg uwch fel y gall ddal ati i gefnogi ei wyrion wrth iddynt dyfu. Mae Val hefyd wedi gwirfoddoli ei sgiliau yn ysgol Dylan a Luke a bydd yn helpu plant ifanc i ddysgu sut i ddarllen.
Cafodd John a Val eu henwebu gan Liz James, Tiwtor Sgiliau Hanfodol Coleg Merthyr, gan weithio mewn partneriaeth gydag Addysg Oedolion Cyngor Merthyr Tudful. Dywedodd: “Mae John a Val ill dau yn cyrraedd diwedd eu gyrfaoedd a doedden nhw ddim yn anelu cynyddu eu sgiliau, ond roedden nhw wirioneddol
eisiau helpu eu hwyrion. Roeddent ychydig yn betrus i ddechrau, yn arbennig wrth feddwl am ddysgu ar-lein, ond nawr does dim pall arnynt!”