Life Change and Progression Award
Karryann Healey

Tair oed oedd Karryann Healey pan gafodd ei rhoi yn y system gofal a chael ei mabwysiadu ond fe wnaeth byw gyda cham-driniaeth a chythrwfl ei blynyddoedd cynnar droi ei bywyd a’i ben i waered. Esboniodd: “Roeddwn yn hapus ar adegau. Ond roedd cyfnodau tywyll hefyd. Doeddwn i ddim yn teimlo mod i yn cael fy ngharu a roeddwn yn ysu am sylw. Roeddwn yn mitsio o’r ysgol, fe geisiais redeg i ffwrdd. Roeddwn ar gyfeiliorn ac fe wnes lanastr o fy addysg.”
Dechreuodd gymryd cyffuriau a arweiniodd at gyfnod o ddigartrefedd pan oedd yn 17 oed. “Roedd yn rhwydd dylanwadu arnaf ond roedd hefyd yn ffordd i fi ddelio gyda’r gamdriniaeth. Roedd y cyffuriau yn llacio pethau, felly roeddwn yn meddwl fy mod yn helpu fy hun. Dechreuais ddwyn o siopau a gwneud pethau eraill. Mae gennyf gymaint o gywilydd. Mae’n teimlo’n ofnadwy i mi wneud y pethau hynny ond dyna beth mae cyffuriau yn achosi i chi wneud. Maent yn eich newid fel person ac fe wnewch unrhyw beth i gael arian i’w prynu.” Dihangodd o berthynas o reoli a chamdriniaeth i Loches Menywod yn 2004, ond fe wnaeth straen y sefyllfa wneud iddi ddechrau defnyddio cyffuriau ac alcohol eto.
“Roedd gen i ffordd o fyw hollol anhrefnus. Symudais i Gaerdydd yn 2015 ac roedd pethau’n dal yn flêr gyda chyffuriau o fy amgylch ym mhob man. Fe bennais lan mewn hostel ar ddechrau 2019 a mynd i drafferth ar ôl mynd i sefyllfa enbyd yn ceisio talu i ddeliwr a fy nghael yn euog mewn llys barn.” Cyfarfod gyda St Giles Trust wnaeth ddechrau troi ei bywyd o gwmpas. Mae’r sefydliad yn helpu rhai sy’n cael eu dal yn ôl gan amrywiaeth o broblemau yn cynnwys tlodi, ecsbloetiad, cam-driniaeth, caethiwed i alcohol neu sylweddau, problemau iechyd meddwl a throseddu.
Dywedodd Karryann: “Roeddent yn yr hostel un diwrnod ac fe wnaethant ddweud eu bod yn medru hyfforddi cyn-droseddwyr a phobl sydd wedi wynebu rhwystrau a heriau. Eisteddais yn ôl a meddwl y dylwn roi cynnig arni. Dywedais stori fy mywyd wrthynt, ac am y tro cyntaf erioed, doedd neb yn fy marnu. Roedd yn teimlo’n rhy dda i fod yn wir, fel bod yn rhaid fod rhywbeth i fy nal.” Dechreuodd fynychu cyrsiau hyfforddiant a dechreuodd bywyd wella; “Gallwn deimlo fy hun yn newid. Roedd fy hunanhyder a fy hunanbarch yn cynyddu. Cefais Lefel 3 Gwybodaeth a Chyngor yn 2021, sy’n gyfwerth â Lefel A. Rwyf wedi dal yr ysfa i ddysgu nawr ac wedi cofrestru i wneud gradd yn y gyfraith.”
Cafodd ei chyflogi gan St Giles Trust ers mis Awst 2021, yn gyntaf fel Gweithiwr Achos Atal dros Radicaleiddio ac mae’n awr yn gweithio fel hyfforddydd llesiant, gan gefnogi dynion o fewn y system cyfiawnder troseddol. “Dyma’r bywyd yr wyf wedi breuddwydio amdano bob amser. Roedd pawb yn meddwl, yn fy nghynnwys fi fy hunan, nad oedd gobaith i mi. Rwy’n defnyddio fy mhrofiadau bywyd i helpu pobl eraill. Mae dysgu wedi gwneud i mi gredu ynddo fi fy hun.
Mae wedi agor cymaint o ddrysau. Rwy’n awr yn hyfforddi drwy’r amser. Rydw i eisiau dysgu cymaint a chanfod am y byd rwyf wedi colli mas arno mor hir. Mae fy holl fywyd wedi bod am oroesi, ond o’r diwedd rwy’n byw go iawn.” Dywedodd Phoenix Averies o St Giles Trust, “Mae Karryann wedi fy ysbrydoli fwy na neb bron. Mae ei gwytnwch a’i phrofiad yn rhyfeddol, mae ganddi lawer o botensial ac mae’n rhoi llawer iawn o angerdd i bopeth a wnaiff.