Adult Learners Week
  • English
  • Cymraeg
Mewngofnodi Darparydd
  • Facebook
  • Twitter
  • Instagram
  • Youtube
  • CARTREF
  • Cael Ysbrydoli
    • Newid Dy Stori
    • Enillwyr Gwobrau
    • Cyfres Podlediad
    • Newyddion a Blogiau
  • Cyrsiau A Digwyddiadau
    • Chwilio pob Cwrs a Digwyddiad
    • Rhestr Darparwyr
  • Amdanom
  • Cyswllt
    • Gwybodaeth i Ddarparwyr
    • Ble Nesaf?
Select Page

Life Change and Progression Award

Kirsty Harris

Gadawodd Kirsty Harris yr ysgol yn 14 oed heb unrhyw gymwysterau. Nawr, yn 36 oed, mae wedi graddio o’r Brifysgol Agored ac yn dechrau ar gwrs meistr yng Ngholeg y Brenin, Llundain. Roedd Kirsty a’i theulu’n wynebu caledi ar ôl i’w thad golli ei swydd mewn gwaith dur. “Roedd yn rhaid i mam weithio mor galed. Yn amlwg, fe wnaeth colli ei swydd effeithio ar fy nhad, Roeddwn yn gweithio mewn siop fferyllydd ac yn gwarchod plant pan oeddwn yn 15.

Rwy’n meddwl i fy ngreddf i ddod drwyddi gymryd drosodd. Roedd fy amgylchiadau yn ei gwneud yn anodd canolbwyntio ar ysgol.” Dechreuodd astudio pan oedd ei mab yn chwe mis oed: “Fe wnes i ymuno â’r Brifysgol Agored a dechrau gwneud gradd mewn Seicoleg. Roeddwn yn teimlo fel mod i’n mynd gartre. Er nad oeddwn wedi gorffen ysgol, gwelais fy mod yn dda am hyn. Cefais glod ar fy aseiniad cyntaf.” Canfu Kirsty ymdeimlad o gymuned yn y brifysgol. “Yn sydyn, roedd pobl yn gweld gwerth ynddo i”. Nid oedd dod i ben gyda’i hastudiaethau gradd a bod yn fam sengl yn rhwydd bob amser. “Yn ffodus roedd Ollie yn cysgu’n dda oherwydd fe fyddwn i’n astudio tra roedd ef yn cysgu.

Roeddwn yn gofyn i fi fy hun drwy’r amser os oeddwn yn gwneud y peth cywir.” Graddiodd Kirsty y llynedd gyda gradd anrhydedd mewn Seicoleg Fforensig. Cafodd gynnig lle ar gymhwyster newydd pwysig – cwrs Meistr mewn Niwrowyddoniaeth a Iechyd Meddwl gyda Choleg y Brenin, Llundain. “Rydw i wedi trechu llawer o bethau. Gwn y gallwn yn rhwydd fod wedi bod mewn sefyllfa wahanol. Nid yw llawer o bobl a gafodd ddechrau anodd fel fi yn bennu lan lle wnes i.”

Mae ei hastudiaethau hefyd wedi galluogi Kirsty i oresgyn problemau gyda datblygiad ei mab: “Fe wnes ddechrau sylwi ar wahaniaethau a roeddwn yn gwybod fod ymyriad cynnar yn hanfodol i’w ganlyniadau hirdymor. Wrth edrych yn ôl, roedd yn amser trwm iawn, roeddwn yn poeni sut y byddai’n effeithio arno yn y dyfodol. Roeddwn yn gwybod beth oedd yn rhaid i mi ei wneud i’w roi ar lwybr cadarnhaol. Mae Oliver a finnau yn gweithio’n dda fel tîm, ac mae’n gwneud yn dda iawn. Rwyf i nawr y person y dylwn i fod wedi bod drwy’r amser. Mae dysgu wedi rhoi’r dulliau i mi ffynnu, ac fe allaf yn awr helpu pobl eraill. Mae wedi rhoi hyder a dyfodol i fi. Byddaf yn ddiolchgar am byth.”

Mae Dr Sharon Davis yn Uwch Ddarlithydd yn y Brifysgol Agored yng Nghymru, “Mae Kirsty yn enghraifft wych o ddysgu gydol oes. Drwy gydol ei hastudiaethau mae wedi dangos penderfyniad i ddysgu a llwyddo. Byddai’n llowcio’r testunau gosod ac wedyn yn darllen llyfr ar ôl llyfr ar seicoleg. Mae ei hyder wedi cynyddu wrth ofyn ac ateb cwestiynau anodd a herio syniadau mewn ffordd strwythuredig a threiddgar – taith mae Kirsty yn parhau arni ac yn ei datblygu drwy’r amser. Mae’n wirioneddol yn ysbrydoliaeth.”

Adult Learners Week
  • English
  • Cymraeg
  • Facebook
  • Twitter
  • Instagram
  • Youtube
GOV Wales
ESF
Learning and Work Institute
  • CARTREF
  • Cael eich Ysbrydoli
    • Newid Dy Stori
    • Newyddion a Blogiau
  • Canfod Digwyddiad
    • Chwilio Digwyddiad Rhydd
    • Rhestr Darparwyr
  • Amdanom
  • Cyswllt
    • gwybodaeth-i-ddarparwyr
    • Ble Nesaf?
  • Mewngofnodi Darparydd
    • Fy Nghyfrif
    • Digwyddiadau
©2019 Sefydliad Dysgu a Gwaith. Cedwir Pob Hawl.
  • Polisi Cwcis
  • Datganiad Hygyrchedd
  • Polisi Preifatrwydd

We are using cookies to give you the best experience on our website.

You can find out more about which cookies we are using or switch them off in settings.

Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.

Strictly Necessary Cookies

Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.

If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.

Cookie Policy

More information about our Cookie Policy