Hywel Francis Award for Community Impact
Springboard

Bu Sbardun, prosiect dysgu cymunedol a ddatblygwyd gan Dysgu Sir Benfro, yn dod â chyfleoedd dysgu fel teulu i ysgolion a chymunedau yn rhai o rannau tlotaf Sir Benfro am dros ddegawd.
Mae’r prosiect yn cynnig ystod amrywiol o weithgareddau i ennyn diddordeb teuluoedd mewn dysgu gyda’i gilydd. Ynghyd â gweithdai unigol, mae Sbardun hefyd yn cynnwys teuluoedd mewn prosiectau creadigol sylweddol er budd ysgolion a’r gymuned yn ehangach. Laura Phillips yw Cydlynydd Sbardun a Dysgu Gydol Oes De Sir Benfro. Dywedodd: “Mae hyn yn rhan o strategaeth i ennyn diddordeb cymunedau mewn dysgu a thrin tlodi drwy gynnig cyfleoedd am ddim i ddysgu mewn ffordd anffurfiol a hygyrch. Nid yw llawer o’r rhieni neu aelodau eraill o’r teulu wedi gwneud unrhyw ddysgu ffurfiol ers amser maith. Maent yn aml yn brin o hyder ac mae llawer o deuluoedd dan rywfaint o bwysau ariannol. Gwnawn bopeth a fedrwn i sicrhau fod pawb yn cael cyfle i gymryd rhan, pa bynnag rwystrau sy’n eu hwynebu.” “Rydym wedi datblygu partneriaethau gydag ysgolion newydd ac wedi cael cyllid i weithio gyda phlant 0-5 oed. Mae’r pandemig wedi cael effaith enfawr ar blant yn y grŵp oedran yma ac mae eu hanghenion lleferydd ac iaith yn llawer mwy nawr nag oeddent cyn Covid.”
Mae Sbardun wedi cynnig dros 1,600 o wahanol gyrsiau ac wedi bod mewn cyswllt gyda dros 3,600 o ddysgwyr mewn oed yn y 10 mlynedd ddiwethaf yn unig. Mae dros 70% o’r dysgwyr hynny’n mynd ymlaen i fwy o ddysgu ar ôl eu cyswllt cyntaf gyda’r prosiect. “Mae cynifer o’n dysgwyr yn betrus ar y dechrau, mae’n rhyfeddol gweld sut mae eu hyder yn gwella ar ôl ychydig o ddosbarthiadau. Aiff rhai ymlaen i ymrestru ar nifer o gyrsiau gyda ni, dilyn cyrsiau gydag achrediad neu fynd yn ôl i’r coleg. Rydym yn rhoi amser i rieni i wirioneddol ganolbwyntio ar ddysgu gydag un plentyn ar y tro, a all fod yn anodd lle mae nifer o blant.
Mae’n cynnig cyfle iddynt fod nhw eu hunain. Nid oes gwell hysbyseb am ddysgu, ar gyfer plentyn, na rhiant sy’n dewis dysgu gyda nhw. Mae’n anfon neges atynt fod dysgu am oes.” Dechreuodd Gemma Williams ddysgu gyda Sbardun ar ôl symud i Sir Benfro. “Doeddwn i ddim yn adnabod unrhyw un pan ymunais â Sbardun i ddechrau. Byddwn yn mynd â fy mhlentyn i’r ysgol a dim yn siarad gyda neb, roedd yn unig. Fe helpodd Sbardun fi i ganfod fy mhobl a theimlo’n rhan o fy nghymuned. Fe wnaeth bod yn bresennol yn yr ysgol fy helpu hefyd i deimlo fy mod yn cymryd rhan a gwneud symud i ysgol newydd yn rhwyddach i fy mhlant.
Roedd dysgu gyda Sbardun yn hwb enfawr i fy hyder, ar ôl bod allan o waith am ddeng mlynedd. Fe wnaethant fy annog i wneud cais am y swydd sydd gen i heddiw. Rwyf mor ddiolchgar am y cyfleoedd a gefais, mae’n wir wedi newid fy mywyd.”