Starting Out - Welsh Beginner Award
Tom Dyer

Trodd Tom Dyer y pandemig yn gyfle i roi cynnig ar rywbeth newydd. “Collais fy swydd pan gyrhaeddodd Covid a phenderfynu symud yn ôl o Gaerdydd i Hwlffordd i helpu fy chwaer gydag ysgol gartref fy nith. Roeddwn yn meddwl y byddai Covid drosodd yn eithaf cyflym”, meddai Tom. Roedd chwaer Tom yn weithiwr allweddol, felly roedd wedi cymryd yr awenau mewn dim o dro gyda’r ysgol gartref. Yn ystod gwersi ar-lein roedd yn brysur yn meddwl beth fedrai wneud nesaf. Roedd wedi gweithio yn Tenovus Cancer Care yn arwain rhaglen ‘Activate Your Life’ sy’n defnyddio egwyddorion Therapi Derbyn ac Ymroddiad (ACT) i helpu unrhyw un y mae canser wedi effeithio arnynt.
“Penderfynodd fy chwaer a finnau i gyhoeddi fideos byr ar Facebook i helpu pobl i ymdopi yn y cyfnodau clo. Roeddwn eisiau defnyddio egwyddorion ACT i helpu pobl fynd drwy’r cyfnodau clo. Mae’r cyfan am ganfod eich gwerthoedd, derbyn yr hyn na fedrwch ei newid ond ymroddi i bwy ydych eisiau bod yn awr ac yn y dyfodol.” O ddyddiau Llun i ddyddiau Iau byddai fideo newydd amser cinio gydag eitem cyd-ganu ar nos Wener a daeth y ddeuawd yn fuan i sylw Pure West Radio. “Fe wnaethom gysylltu â nhw i ddweud wrthynt am, ein eitem Facebook, ac fe wnaethant gynnig sioe i ni. Fe wnaeth y ddau ohonom ddechrau cyflwyno’r sioe brecwast cynnar, oedd yn llawer iawn o hwyl.”
Bu Tom yn cyflwyno sioe am dros ddwy flynedd bellach. Gofynnodd yr orsaf iddo fwy neu lai ar y dechrau os byddai’n ystyried dysgu Cymraeg fel rhan o raglen garlam gyda Dysgu Cymraeg Sir Benfro. “Dyna beth wnaeth fy nghymell i ddechrau dysgu Cymraeg ond mae’n rhywbeth rwyf bob amser wedi bod eisiau ei wneud,” meddai Tom. “Rwyf yn sylfaenol wedi gwneud pedair blynedd o ddysgu mewn dwy flynedd felly mae’n gryn her. Yn ffodus, Cymraeg yw iaith gyntaf fy nghariad Helen. Mae’n dda medru cael sgyrsiau Cymraeg gyda rhywun tu allan i’r gwersi.”
Mae Tom wedi pasio lefel gyntaf ‘Mynediad’ a’i lefel ‘Sylfaen’ a bydd yn symud ymlaen i ‘Canolradd’ ym mis Medi. Mae bob amser yn ceisio cynnwys ymadroddion Cymraeg a chynnwys yr iaith yn ei sioe radio. “Rydw i bob amser yn ceisio gweu ymadroddion bach i’r sioe. Rydyn ni’n cyfarch pobl yn Gymraeg a Saesneg, ac rwy’n gwneud eitem 10-munud ‘Ymadrodd yr Wythnos’. Bu hefyd yn cadw dyddiadur fideo fel y gall rannu ei gynnydd ac annog eraill i ddysgu ac mae’n ymroddedig i’w ddysgu ei hunan. “Rwy’n rhywun sy’n gafael mewn cyfleoedd. Mewn llawer o ffyrdd, fe wnaeth Covid greu cyfleoedd i fi. Roeddwn yn ffodus na chollais neb, neu na fu unrhyw un agos ataf yn wael iawn, ond ni chredaf y byddaf yn dysgu Cymraeg pe na fyddwn wedi colli fy swydd.”
Dywedodd Tomos Hopkins, tiwtor gyda Dysgu Cymraeg Sir Benfro: “Mae brwdfrydedd Tom dros yr iaith yn anhygoel o heintus. Ac mae nawr yn ei chyflwyno i gynulleidfa newydd gyda’i sioe radio, sydd o fudd enfawr i’r iaith.”