Different Past Shared Futures Award
Zaina Aljumma

Cyrhaeddodd Zaina Aljumma yng Nghymru dair blynedd yn ôl ar ôl ffoi rhag rhyfel sifil yn Syria. Yn y cyfnod byr ers iddi gyrraedd, nid yn unig mae wedi dysgu Saesneg ond mae hefyd wedi dechrau ar radd meistr ym Mhrifysgol De Cymru, gorffen dwy lefel o Iaith Arwyddion Prydain, ennill cymwysterau mewn gwasanaeth cyhoeddus, ysgrifennu creadigol a dehongli. Ynghyd â hyn, mae hefyd yn dysgu Cymraeg.
Wrth ochr ei hastudiaethau mae hefyd yn magu ei dau fab ifanc a hefyd yn gweithio’n llawn-amser ac yn gwirfoddoli. Roedd newydd ddechrau ar radd meistr yn Syria pan fu’n rhaid iddi ffoi. “Roedd yn ofnadwy. Roedd bomiau’n disgyn ar lle’r oeddem yn byw, nid oedd dim trydan, dim dŵr, dim rhyngrwyd. Roedd yn rhaid i fi adael perthnasau ar ôl.” Treuliodd amser yn Kuwait ac astudio cyrsiau dwys mewn addysg ar gyfer pobl gydag anableddau dysgu. Ond methodd aros ac roedd pethau’n wahanol iawn iddi pan gyrhaeddodd Brydain. “Saesneg sylfaenol iawn wnaethon ni yn yr ysgol yn Syria. Pan gyrhaeddais yma gyntaf,
doeddwn i ddim eisiau gadael fy ystafell oherwydd na fedrwn gyfathrebu gyda neb. Roeddwn yn teimlo’n werth dim.”
Dechreuodd wirfoddoli a helpodd hynny hi i gynyddu ei hyder a dechreuodd ar gwrs IELTS (‘International English Language Testing System’). Nawr, dair blynedd yn unig ar ôl cyrraedd Prydain, mae’n gorffen gradd mewn Addysg gydag Anghenion Addysgol Arbennig/Dysgu Ychwanegol.
“Bu’n daith ddysgu galed iawn ond rwyf wedi bod yn ffodus. Fe wnaeth fy nghyfeillion fy rhoi mewn cysylltiad â menyw hyfryd o Syria sydd wedi helpu i ofalu am fy meibion. Rwyf bob amser yn dweud wrthi na fyddwn yn medru mynd i brifysgol hebddi gan na fyddwn byth wedi medru mynychu fy narlithoedd min nos.” Mae Zaina yn gweithio’n llawn-amser ynghyd ag astudio. Gan weithio i Ddinas Noddfa, mae hefyd wedi cymryd swydd gydag Addysg Oedolion Cymru fel
Swyddog Datblygu Cwricwlwm. Mae hefyd yn awyddus i ddefnyddio’r sgiliau i helpu’r rhai sy’n ei chael yn anodd dysgu: “Weithiau mae ceiswyr nodded sy’n siarad Saesneg fel ail iaith yn ei chael yn anodd dysgu. Gallai hynny fod oherwydd y broses lloches – a all fod yn her i iechyd meddwl, ond gallai hefyd fod oherwydd bod anawsterau dysgu na wyddent amdanynt. Mae hynny’n rhywbeth mae gennyf ddiddordeb ei ymchwilio. Mae Zaina yn gwirfoddoli i nifer o elusennau yn cynnwys y Groes Goch, Rhwydwaith Lleisiau, Oasis Caerdydd a Chyngor Ffoaduriaid Cymru. “Mae fy meibion yn aml yn dod gyda fi pan fyddaf yn gwirfoddoli. Maent yn actifyddion bach gwych”. Mae hefyd wedi llwyddo i ganfod amser i ddechrau dysgu Cymraeg: “Rwy’n gallu darllen ac ysgrifennu ychydig o Gymraeg. O Syria rwyf yn dod ond rwy’n teimlo’n Gymraes hefyd felly mae’n bwysig dysgu iaith y genedl rwy’n awr yn perthyn iddi.”
Cafodd Zaina ei henwebu gan Mike Chick. Prifysgol De Cymru. Dywedodd: “Mae’r hyn a gyflawnodd yn ddim llai na gwyrthiol. Mae’n enghraifft berffaith o sut y gall diwylliant gael ei gyfoethogi gan integreiddio. Mae wedi dangos nerth a gwytnwch i astudio, gweithio a gwirfoddoli ac wrth gwrs i fagu ei dau fab ifanc.”