NEWID DY STORI
Bydd Wythnos Dysgwyr Oedolion yn cael ei chynnal rhwng 19 – 25 Medi 2022, gyda gweithgaredd yn cael ei gynnal ar draws mis Medi. Porwch y cannoedd o adnoddau am ddim sydd eisoes ar ein platfform. Defnyddiwch y swyddogaeth chwilio isod i ddod o hyd i ddigwyddiad, cwrs neu adnodd a dechrau dysgu heddiw.
Gallwch hefyd bori trwy sesiynau blasu byw am ddim sy’n digwydd trwy gydol Wythnos Dysgwyr Oedolion yn yr amserlen hon.
CAEL EICH YSBRYDOLI GAN ...
Gall Addysg Oedolion ehangu gorwelion, adeiladu eich rhwydweithiau ac agor drysau, mae’n gyfle i chi wneud dechrau newydd. P’un ai ydych yn edrych am gyfeiriad newydd, gloywi eich sgiliau, gwella eich cyfleoedd swydd, ceisio cyngor newydd ac arweiniad ar gymhwyster, neu yn syml ddysgu rhywbeth newydd. Mae’r Wythnos Addysg Oedolion yn rhad ac am ddim ac ar gyfer pawb.
Islaw mae rhai o straeon ysbrydoledig pobl a gymerodd y cam nesaf i droi eu bywydau o amgylch i adeiladu dyfodol gwell. Bu addysg oedolion yn allweddol i straeon llwyddiant pob un ohonynt ac yn rhaff bywyd i lawer.




Cliciwch y botwm islaw am fwy o straeon newid bywyd gan bobl ar draws Cymru.
CANFOD MWY AM WYTHNOS ADDYSG OEDOLION
YMUNWCH Â’R YMGYRCH WYTHNOS OEDOLION OEDOLION
Dadlwythwch ein pecyn cymorth ymgyrch ac adnoddau i gymryd rhan
Rhannu sgiliau tu hwnt i Gymru
Edrychwch ar y digwyddiadau ar-lein sy’n digwydd tu hwnt i Gymru. Fe welwch amrywiaeth eang o gyrsiau ar-lein gydag achrediad, sesiynau blasu a sesiynau tiwtorial sydd ar gael i bawb ble bynnag yr ydych.
Canfod mwy o ddigwyddiadau ar-lein
CYMRU’N GWEITHO
Dysgu sgiliau newydd adechrau’r bennod nesaf
Mae Cymru’n Gweithio yn wasanaeth newydd sy’n galluogi unrhyw un dros 16 oed ledled Cymru i gael mynediad i gyngor ac arweiniad arbenigol i’ch helpu i oresgyn rhwystau a all fod yn eich wynebu i fynd i waith.
Felly p’un ai ydych angen help i chwilio am swyddi, ysgrifennu CV, paratoi ar gyfer cyfweliad, canfod lleoliad gwaith, dysgu sgiliau newydd, deall hawliau dileu swydd, cefnogaeth gofal plant, meithrin hunanhyder, neu hyd yn oed ble i droi iddo nesaf, dyma’r lle cywir i gael yr help rydych ei angen.