Darganfod eich angerdd a dal ati i ddysgu

  • Chwilio am gyrsiau a digwyddiadau ar-lein ac wyneb i wyneb, sesiynau blasu byw ac adnoddau dysgu
  • Cysylltu gyda ni ar y cyfryngau cymdeithasol – Twitter Instagram Facebook – defnyddiwch yr hashnodau #dalatiiddysgu  #newiddystori  #wythnosaddysgoedolion  a’n tagio yn eich negeseuon. Dywedwch wrthym beth ydych yn ei ddsgu, rhannu eich stori ysbrydoli, neu rannu sgil
  • Ceisio cyngor ac arweiniad arbenigol tebyg i ailhyfforddi, cyfrifon dysgu personol a beth i’w wneud os collwch eich swydd drwy wefan Cymru’n Gweithio
  • Bod yn rhan o’r dathliad dysgu mwyaf yng Nghymru a gwneud gwahaniaeth

Beth ddywedodd rhai a gymerodd ran yn yr Wythnos Addysg Oedolion…

PARTNERIAID YMGYRCH

Caiff yr Wythnos Addysg Oedolion ei chydlynu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith, sefydliad polisi, ymchwil a datblygu annibynnol sy’n ymroddedig i ddysgu gydol oes, cyflogaeth lawn a chynhwysiant. Rydym wedi gweithio’n agos gydag ystod eang o bartneriaid a rhanddeiliaid am dros 25 mlynedd i gefnogi cyflwyno’r Wythnos Addysg Oedolion yng Nghymru. Diolch yn arbennig i noddwyr ymgyrch islaw.

Diddordeb mewn cefnogi’r Wythnos Addysg Oedolion?

A ydych yn ddarparydd ?

Ydych chi’n ddarparwr?

Ychwanegwch eich cyrsiau eich hun i’n gwefan.

CYMRU’N GWEITHO

Dysgu sgiliau newydd adechrau’r bennod nesaf

Beth bynnag yw dy sefyllfa, os wyt ti’n awyddus i ddysgu sgil newydd, byddwn ni’n dy helpu di l ystyried dy opsiynau gyda chyngor diduedd am ddim ar y rhaglenni hyfforddi a all dy helpu di i newid dy stori.
Cymru’n Gweithio#newiddystori

Mae Cymru’n Gweithio yn wasanaeth newydd sy’n galluogi unrhyw un dros 16 oed ledled Cymru i gael mynediad i gyngor ac arweiniad arbenigol i’ch helpu i oresgyn rhwystau a all fod yn eich wynebu i fynd i waith.

Felly p’un ai ydych angen help i chwilio am swyddi, ysgrifennu CV, paratoi ar gyfer cyfweliad, canfod lleoliad gwaith, dysgu sgiliau newydd, deall hawliau dileu swydd, cefnogaeth gofal plant, meithrin hunanhyder, neu hyd yn oed ble i droi iddo nesaf, dyma’r lle cywir i gael yr help rydych ei angen.

Dilynwch ni ar y Cyfryngau Cymdeithasol