YMUNWCH Â’N HYMGYRCH
Cynhelir Wythnos Addysg Oedolion rhwng 19 – 25 Medi 2022 gyda gweithgaredd hyrwyddo yn digwydd trwy Awst a Medi.
Gan weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, fe wnaethom lansio’r llwyfan hwn yn llwyddiannus y llynedd fel rhan o ymgyrch amlgyfrwng i hyrwyddo addysg oedolion yng nghanol pandemig coronafeirws. Gwyliwch y fideo yma i ganfod mwy.
Eleni, fel rhan o ymgyrch Wythnos Addysg Oedolion, rydym yn cynllunio cymysgedd o ddigwyddiadau a chyrsiau, sesiynau blasu, diwrnodau agored, a digwyddiadau allgymorth ar-lein, byw ac mewn person, fydd yn cael eu hyrwyddo i bobl ar draws Cymru trwy gydol mis Awst a mis Medi.
Er mwyn gwneud 2022 yn fwy llwyddiannus byth, mae angen eich cymorth chi arnom!
Rydym angen i chi fod yn rhan o Wythnos Addysg Oedolion a defnyddio’r llwyfan i hyrwyddo eich cyrsiau, digwyddiadau agored, sesiynau blasu ar-lein a’ch adnoddau dysgu i helpu i ymgysylltu ac ysbrydoli pobl i ddysgu rhywbeth newydd mewn ffordd sydd yn addas iddyn nhw.
Rydym yn edrych am bartneriaid i gyflwyno dosbarthiadau blasu byw a digwyddiadau arbennig ar gyfer Wythnos Addysg Oedolion a byddwn yn hyrwyddo unrhyw gyrsiau ac adnoddau sydd ar gael ac wedi eu rhestru ar y safle o fis Awst hyd at fis Medi.
Mae pandemig coronafeirws wedi effeithio ar fywydau llawer yn ein cymunedau ac wedi pwysleisio llawer o anghydraddoldebau. Mae angen i ni alluogi llawer mwy o bobl ar hyd a lled Cymru i ymgysylltu â dysgu gydol oes. Mae datblygu sgiliau newydd yn gam hanfodol tuag at wella cyfleoedd, dewisiadau a chyfle mewn bywyd.
Gallai enghreifftiau o weithgareddau gynnwys sgiliau bywyd, llesiant, sgiliau digidol a thechnoleg, y celfyddydau, neu sgiliau mwy ymarferol a allai arwain at gymwysterau pellach, fel darllen, ysgrifennu a mathemateg neu bynciau STEM.
Dyma’r ffyrdd y gall y Sefydliad Dysgu a Gwaith eich helpu chi i gyflwyno eich cyrsiau, digwyddiadau ac adnoddau:
- Hyrwyddo eich gweithgareddau’n ddwyieithog trwy ein calendr digwyddiadau ar-lein yn cynnwys gwefan Cymru Iach ar Waith
- Rhannu manylion eich gweithgareddau dysgu ar-lein trwy’r cyfryngau cymdeithasol.
- Sicrhau bod eich sefydliad yn rhan o ymgyrch CC ehangach Wythnos Addysg Oedolion.Dadlwythwch ein hymgyrch Wythnos Dysgwyr Oedolion a’n pecyn adnoddau
Os ydych wedi trefnu a chyflwyno cynnwys ar gyfer Wythnos Addysg Oedolion yn flaenorol a bod gennych fanylion mewngofnodi ar gyfer y wefan, ewch i’n tudalen mewngofnodi i gofrestru eich digwyddiadau.
Os ydych yn newydd i Wythnos Addysg Oedolion, lawrlwythwch a llenwch ein ffurflen trwy glicio ar y botwm isod ar y dde a’i dychwelyd i’r Sefydliad Dysgu a Gwaith ar ebost.
Am fwy o wybodaeth neu os oes angen cymorth arnoch gyda’ch cyfrif, cysylltwch â ni yn alwevents@learningandwork.org.uk